Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Medi 2016

Dirwy o £175 am ollwng stwmpyn sigarét o ffenestr car

Mae dyn o Rydaman wedi cael ei ddirwyo £175 am ollwng stwmpyn sigarét o ffenestr car.

Plediodd Nigel Wayne Phillips, o Frynteg, Capel Hendre, Sir Gaerfyrddin yn euog drwy lythyr am sbwriela.

Clywodd Llys Ynadon Llanelli fod Swyddogion Gorfodi Materion Amgylcheddol Cyngor Sir Caerfyrddin ar batrôl yn ardal Rhodfa Glan yr Afon, Rhydaman ddydd Mawrth, 19 Ebrill eleni pan welsant Phillips yn taflu stwmpyn sigarét allan o ffenestr cerbyd.

Aeth y swyddogion at Phillips ac esbonio wrtho beth roeddent wedi'i weld.

Cyfaddefodd Phillips i ollwng sbwriel ac o ganlyniad cafodd hysbysiad cosb benodedig o £75.

Methodd â thalu'r gosb benodedig a chafodd ei erlyn.

Cafodd Phillips, sy'n 38 oed, ddirwy o £175 a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £205 a gordal dioddefwr o £30.

Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd: “Mae'n dorcyfraith i ollwng sbwriel ac nid yw taflu stympiau sigaréts yn wahanol i ollwng unrhyw fath arall o sbwriel.

“Mae stympiau sigaréts yn anharddu'r lle ac yn anodd iawn i'w glanhau oherwydd eu bod nhw'n cwympo i gratiau a chraciau yn y palmant.

“Mae'n flaenoriaeth gan y cyngor gadw'r sir yn lân i drigolion ac ymwelwyr. Bydd unrhyw rai sy'n cael eu dal yn gollwng sbwriel yn cael dirwy."

Rhannu |