Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Medi 2016

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi terfyn ar brisiau tocynnau trên

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw na fydd prisiau tocynnau trên yng Nghymru sy’n cael eu rheoleiddio yn codi uwchlaw’r gyfradd chwyddiant hyd o leiaf Hydref 2018.

Golyga hyn na fydd Trenau Arriva Cymru’n gallu codi prisiau tocynnau trên a reoleiddir uwchlaw’r terfyn o 1.9% - sy’n 0% yn uwch na chyfradd chwyddiant y Mynegai Prisiau Manwerthu – o fis Ionawr 2017.

Eglurodd Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates: “Ar gyfer 2017 rydym wedi pennu mai’r cam mwyaf delfrydol yw gosod terfyn ar brisiau tocynnau trên - sef 0% uwchlaw’r gyfradd chwyddiant.

"Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr trenau a hefyd yn ei gwneud hi’n haws i sicrhau bod teithio ar drenau’n ddewis deniadol a fforddiadwy.

"Bydd terfyn ar unrhyw gynnydd ym mhrisiau tocynnau trên o fis Ionawr 2018 yn ogystal hyd ddiwedd cyfnod y fasnachfraint bresennol ym mis Hydref 2018 - sef y gyfradd chwyddiant a dim ceiniog yn fwy.”

 

Rhannu |