Mwy o Newyddion
Gofyn i bysgotwyr ryddhau pob eog
Gofynnir unwaith yn rhagor i bysgotwyr helpu i warchod stociau pysgod trwy ryddhau pob eog a gaiff ei ddal ganddynt rhwng rŵan a diwedd y tymor.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn hyn yn dilyn adolygiad o’r data monitro sy’n dangos bod stociau eogiaid mewn ambell afon yng Nghymru – yn arbennig Afon Wysg, Afon Tywi ac Afon Clwyd – yn wynebu bygythiad ‘digyffelyb’, diolch i ostyngiad dramatig yn nifer y silod mân.
Meddai Dave Mee, uwch-gynghorydd pysgodfeydd yn CNC: “Mae’r eog yn rhan bwysig o’n hamgylchedd a’n diwylliant yng Nghymru ac mae pysgota’n cyfrannu’n fawr at yr economi wledig. Yn awr, rhaid inni gymryd camau i warchod ein stociau.
“Yn aml, yn ystod wythnosau olaf y tymor y caiff y nifer fwyaf o eogiaid eu dal, felly mae angen inni sicrhau ar frys fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i roi cyfle i gynifer o eogiaid â phosibl silio ac atgynhyrchu mwy o bysgod ifanc er mwyn rhoi hwb i’r stociau.”
Ar hyn o bryd caiff 78% o eogiaid Cymru ar gyfartaledd eu rhyddhau ar ôl cael eu dal, ond mae hyn yn cynnwys y cyfnod cyn 16eg Mehefin bob blwyddyn, pan mae pysgota ‘dal a rhyddhau’ eisoes yn ofynnol yn ôl is-ddeddf, a hefyd Afon Gwy ac Afon Taf lle y mae ‘dal a rhyddhau’ yn ofynnol drwy gydol y tymor.
Y wir gyfradd ar gyfer ‘dal a rhyddhau’ gwirfoddol, lle y mae pysgotwyr yn dewis gwneud hynny, yw ychydig yn uwch na 50% ar draws Cymru.
Mae ffigurau ar gyfer Afon Gwy ac Afon Taf, lle y mae is-ddeddfau ‘dal a rhyddhau’ llawn ar waith, yn awgrymu y gall yr arfer gael effaith gadarnhaol a chyflym ar stociau pysgod heb effeithio ar niferoedd pysgotwyr nac ar y manteision economaidd cysylltiedig.
Mae Cymdeithas Bysgota Ogwr yn un enghraifft lle y mae pysgotwyr eisoes wedi cyflwyno’u rheolau eu hunain er mwyn sicrhau bod 100% o’r eogiaid a ddelir yn cael eu rhyddhau heb fod angen unrhyw ddeddfwriaeth. Mae hwn yn ddewis sydd ar gael i bob pysgotwr, clwb pysgota a physgodfa breifat.
Ychwanegodd Dave: “Mae CNC yn cynyddu ei ymdrechion i ddod o hyd i achos y dirywiad, a allai fod yn gysylltiedig â’r tymheredd mis Rhagfyr uchaf i’w gofnodi, a ddigwyddodd yn 2015; ond yn y cyfamser, gall pysgotwyr chwarae eu rhan trwy ‘ddal a rhyddhau’ yn wirfoddol.
“Mae nifer yr eogiaid sy’n ymfudo’n ôl i’n hafonydd yn bryderus o isel, ac ochr yn ochr â’r dirywiad digyffelyb yn niferoedd silod mân eleni mae’n golygu bod pob pysgodyn llawndwf angen cyfle i silio.
“Mae nifer o bysgotwyr eisoes yn rhoi arfer ‘dal a rhyddhau’ ar waith, ac wedi bod yn gwneud hynny ers sawl blwyddyn. Ond yn awr, rydym o’r farn fod y sefyllfa mor ddifrifol i eogiaid nes bod yn rhaid inni ofyn ar frys i bysgotwyr ryddhau pob eog tra’r ydym yn ystyried pa gamau rheoli y gall fod eu hangen yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Rhys Llywelyn, Llywydd Cymdeithas Genweirwyr Eog a Brithyll Cymru: “Yn amlwg, dylai pob eog gael ei arbed er mwyn iddo allu silio, ac ar gyfer y dyfodol fe fydd angen inni roi ystyriaeth i orbysgota.
"Fe fydd gwytnwch a strategaethau bywyd yr eog yn gwneud yn iawn am hyn i ryw raddau, felly mae’r angen pwysig i barhau i’w hadfer ym mhob un o’n hafonydd yn parhau.
“Mae’n hanfodol i bysgotwyr ddefnyddio dulliau sy’n sicrhau bod yr eogiaid a gaiff eu rhyddhau’n cael y cyfle gorau posibl i oroesi.
“Mae defnyddio bachau sydd heb adfachau, fel y gellir rhyddhau’r pysgod yn rhwydd ac yn gyflym, a pheidio â chodi’r pysgod o’r dŵr wrth eu dadfachu, yn ddwy ffordd hollbwysig o wella’u goroesiad.
“Mae codi pysgod i’r awyr am 30-60 eiliad yn haneru eu siawns o oroesi. Dychmygwch eich bod wedi rhedeg nes eich bod wedi ymlâdd, ac yna’n gorfod dal eich anadl? Gall delio â’r pysgodyn yn gyflym ac yn ofalus wneud gwahaniaeth mawr.”