Mwy o Newyddion
Newid ar y brig yn y Cynulliad Cenedlaethol
Yr wythnos hon, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lansio ei ymgyrch i recriwtio Prif Weithredwr a Chlerc newydd.
Mae'r Cynulliad wrth galon democratiaeth a gwleidyddiaeth yng Nghymru. Yr ymgeisydd llwyddiannus fydd prif ymgynghorydd y Llywydd o ran strategaeth, trefniadaeth a pholisi, a bydd yn rhaid i'r person hwn sicrhau bod yr ystod lawn o wasanaethau'n cael eu darparu i Aelodau'r Cynulliad.
Mae perfformiad Comisiwn y Cynulliad yn effeithio ar lwyddiant ac enw da'r Cynulliad mewn ffordd uniongyrchol a hanfodol, gan wneud hon yn swydd hynod gyfrifol sydd â chanlyniadau enfawr os nad yw'n cael ei chyflawni'n effeithiol.
Mae Claire Clancy wedi bod yn y swydd hon am bron ddeng mlynedd, gan arwain y sefydliad yn ystod cyfnod o newid sylweddol.
Dywedodd y Llywydd, Elin Jones AC, y bydd yn chwilio am unigolyn eithriadol i arwain staff ymroddedig a dawnus y Comisiwn trwy gyfnod datblygu nesaf y Cynulliad.
Dywedodd y Llywydd: "Rwy'n dibynnu'n fawr ar y Prif Weithredwr a'r Clerc i gynnig arweinyddiaeth arloesol a gweladwy mewn ffordd sy'n ennyn ymddiriedaeth, ac i ddarparu gwasanaeth o safon eithriadol.
"Mae newid cyfansoddiadol wedi bod yn fater blaenllaw i'r Prif Weithredwr, a bydd yn parhau felly.
"Mae natur datganoli yng Nghymru, a safle'r Cynulliad yng nghyfansoddiad y Deyrnas Unedig, yn parhau i ddatblygu, felly bydd cyd-destun y rôl yn y blynyddoedd nesaf yn gosod tipyn o her ond yn talu ar ei ganfed."
Gan feddwl am ei hamser yn y swydd, dywedodd Mrs Clancy: "Mae hon yn swydd sy'n cynnig boddhad mawr.
"Mae wedi bod yn fraint go iawn cael bod wrth galon y newidiadau sydd wedi digwydd dros y degawd diwethaf.
"Waeth pwy fydd yn cael y swydd, rwy'n gwybod y bydd rhan fawr ohonof i fydd yn genfigennus iawn.
"Wrth edrych i’r dyfodol, mae'r cyfnod nesaf i'r Cynulliad yn edrych yn fwy cyffrous fyth, â photensial anferthol i rywun adeiladu ar lwyddiannau'r Comisiwn a helpu i arwain y Comisiwn drwy'r cam nesaf o ddatganoli yng Nghymru.
"Mae'n gyfle anhygoel sydd ond yn codi unwaith mewn oes."
Llun: Claire Clancy