Mwy o Newyddion
Plant yw oddeutu hanner y clwyfedig yn Nwyrain Aleppo yn ôl meddygon
Yn ôl partneriaid dyngarol Achub y Plant yn Nwyrain Aleppo, mae oddeutu hanner y clwyfedig y maent yn eu tynnu o’r rwbel neu’n eu trîn yn yr ysbytai yn blant.
Dywedodd un ysbyty bod 43 y cant o’r dioddefwyr a gafodd eu trîn ddydd Sadwrn yn blant, ac yn ôl criw ambiwlans gyda Shafak, elusen yn Syria, mae mwy na 50 y cant o’r clwyfedig a gafodd eu hachub yn y 48 awr diwethaf yn blant.
Mae doctoriaid yn gweithio bob awr o’r dydd i geisio eu hachub, ond mae plant yn marw ar loriau ysbytai yn sgîl prinder meddyginiaethau sylfaenol ac offer, gan gynnwys gwynteidyddion (ventilators), anaesthetigau a gwrthfiotigau.
Dylai achosion dwys gael eu trosglwyddo allan o Ddwyrain Aleppo i dderbyn triniaeth, ond mae’r ffyrdd i gyd wedi eu rhwystro.
O’r wybodaeth sydd wedi ei ddarparu ceir darlun o drais a dioddefaint y tu hwnt i’r dychymyg i blant a’u teuluoedd, wrth i Gyngor Diogelwch y CU gyfarfod am sesiwn brys ar Aleppo.
Dywedd Dr Abu Rajab, sy’n gweithio mewn ysbyty yn yr ardal sydd o dan warchae, bod o’r 67 claf ddaeth i mewn ddydd Sadwrn, roedd 29 yn blant.
Bu farw pump o blant gan nad oedd gan yr ysbyty ddigon o wynteidyddion i’w trin.
Erbyn ganol dydd ddoe roedd o leiaf 32 dioddefwr newydd wedi cyrraedd, a 50 mewn ysbyty cyfagos.
Yn ôl Dr Abu Rajab: “Mae’r ysbytai maes lle rydym yn gweithio yn llawn dop gyda pobl wedi eu clwyfo a dioddefwyr, y mwyafrif ohonynt yn fenywod a phlant.
"Mae cleifion ar y llawr, heb ddim gwynteidyddion i’r rhai sydd angen ocsigen.
"Rhaid i ni fynd â gynteidyddion o un claf i achub un arall.
"Mae prinder enbyd [o feddyginiaethau ac offer] a staff meddygol wedi llwyr ymlâdd sydd yn gweithio y tu hwnt i allu dynol, 24 awr y dydd.
“Drwyddach chi, rydym yn galw am gymorth ar frys, yn galw ar fodau dynol ledled y byd. Rydym yn mynnu, drwy lwyfan y Cyngor Diogelwch, bod y cyrchoedd awyr ar ddinas Aleppo yn cael eu hatal – y cyrchoedd awyr sydd yn achosi hyn i gyd.”
Amcangyfrifa asiantaethau cymorth bod oddeutu 100,000 o blant wedi eu caethiwo yn nwyrain Aleppo pan osodwyd y gwarchae ym mis Mehefin.
Dywedodd Sonia Khush, Cyfarwyddwr Achub y Plant yn Syria: “Rydym yn dystion i anfadwaith erchyll sy’n cael ei weithredu yn erbyn plant Aleppo o flaen ein llygaid heddiw.
"Bydd ein methiant i’w amddiffyn hwy â phlant ar draws Syria yn fwgan fydd yn aflonyddu’r gymuned ryngwladol am ddegawdau i ddod.
“Mae gan Gyngor Diogelwch y CU gyfle i unioni’r cam ac i atal mwy o ddioddefaint pan maent yn cyfarfod yn Efrog Newydd.
"Ni allant adael yr ystafell hyd nes iddynt gytuno ar gadoediad ar unwaith, gan agor lonydd er mwyn ein galluogi ni i ddod a bwyd, dŵr glân a chyflenwadau meddygol i mewn.
“Yn ogystal â hyn rhaid cael atebolrwydd a chyfiawnder am yr hyn sydd wedi digwydd.
"Rydym yn cefnogi’r galw am ymchwiliad annibynnol i’r ymosodiad ar gonfoi cymorth y CU/SARC yr wythnos diwethaf.
"Dylai’r ymchwiliad hefyd fod â’r gallu i weld os oes unrhyw dor-Cyfraith Dyngarol Rhyngwladol pellach a throseddau rhyfel wedi eu cyflawni yn y cyfnod diweddaraf o ymladd.”
Llun: Dr Abu Rajab