Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Medi 2016

Barbwr o Landysul yn torri tir newydd trwy ennill trwydded lori

Mae barbwr o Landysul wedi torri tir newydd trwy ennill cystadleuaeth trwydded lori S4C.

Fe wnaeth Mari Slaymaker gyrraedd y crib cyn pedwar cystadleuydd yn y rhaglen dysgu gyrru lori Trycar a chael trwydded HGV gwerth mil o bunnau.

Fe wnaeth Mari o Landysul, Ceredigion, ennill o drwch blewyn yn erbyn tri chyw yrrwr lori o Wynedd i gael y golau gwyrdd gan y beirniad Russell Jones a'r hyfforddwyr Huw Williams a John Wyn Owen.

Roedd y steilydd gwallt talentog yn ei 20au uwchben y cerddor ac arbenigwr rhaffau  Huw Alwyn o Benrhyndeudraeth, yr adferwr dodrefn o Ynys Môn Enfys Greeney a'r cynllunydd adeiladau o Gae-athro Gareth Rennie.

Cafodd yr enillydd ei datgelu ar ddiwedd y sioe nos Sul (25 Medi) ar S4C. Gallwch wylio'r cyffro ar alw  ar-lein ar s4c.cymru a BBC iPlayer.

Bu'n rhaid i'r pedwar yrru ar hyd ffyrdd a Lonydd Gwynedd ac Ynys Môn, yn ogystal â thrac rasio Trac Môn cyn i un gael ei dewis i gymryd y prawf.

Mae Mari, sydd wedi ennill nifer o wobrau menter busnes, yn awr yn gobeithio cael hyd i gwmni loriau neu berchennog lori i fenthyg lori iddi gael mynd â nwyddau i bobl dlawd yn Romania.

Meddai: "Rwy' mor hapus 'mod i wedi ennill y gystadleuaeth ac nawr yn gallu gyrru lori HGV.

"Ro'n i mor falch o'r cyfle i ddysgu'r sgiliau gan yr hyfforddwyr a bod y beirniad Russell Owen yn meddwl mod i'n ddigon da i fod yn yrrwr lori.

"Nawr wy'n gobeithio y bydd rhyw gwmni neu yrrwr lori yn gallu benthyg lori imi fel y galla i wireddu fy mreuddwyd o fynd â nwyddau i bobl dlawd yn Romania.

"Rwy'n berson hyderus sy'n mwynhau helpu pobl, cael laff a gyrru ceir a motobeics. Licen i yrru cwch a hofrennydd, ond peidiwch â dweud hynny wrth Mam!"

Mae hon yn rhaglen newydd sydd wedi cael ei datblygu fel rhan o gynllun datblygu rhaglenni ar y cyd rhwng S4C, Sony Pictures Television a Rondo Media.

Mae Trycar hefyd yn cael ei dangos nos Wener 30 Medi 10.30, S4C. Ar gael i wylio ar alw ar-lein ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill. Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Rhannu |