Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Medi 2016

Miloedd i groesawu’r Urdd i Benybont-ar-Ogwr

Disgwylir oddeutu 3,000 o bobl i orymdeithio drwy dref Penybont ar ddydd Sadwrn, 8 Hydref fel rhan o ddathliadau Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Penybont-ar-Ogwr, Taf ac Elai, Mai 2017.

Dechreuir y gorymdeithio am 11.30yb o Goleg Penybont gan ymlwybro i sain band pres a band samba at gaeau Bontnewydd erbyn 12.15yp, lle bydd y dathliadau yn parhau gyda prynhawn llawn adloniant AM DDIM i’r teulu cyfan tan 3yp.

Yn cyfrannu at arlwy’r prynhawn bydd perfformwyr Syrcas Circus, cyflwynwyr Stwnsh, cymeriadau Cyw, stondinau nwyddau, Band Mawr Pen-y-bont, y gantores Danielle Lewis, Cpt Smith a pherfformiadau gan ysgolion, adrannau a grwpiau lleol. Yn ogystal â hyn, bydd ystod o weithgareddau chwaraeon yn cael eu cynnal gan Adran Chwaraeon yr Urdd.

Yn ôl Tegwen Ellis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu pawb i Benybont fel rhan o’r ŵyl gyhoeddi ar yr 8fed o Hydref!

"Mae pob ysgol o ardaloedd Penybont ar Ogwr, Taf ac Elái wedi derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yn yr orymdaith felly rydym yn edrych ymlaen at weld ieuenctid y dalgylch yn cyd-orymdeithio trwy strydoedd y dref o goleg Penybont hyd at Gaeau Bontnewydd.

"Mawr obeithiwn bydd y tywydd yn ffarfiol ar y dydd, ond glaw neu hindda fe fydd llawer o hwyl a chroeso cynnes i bawb.”

Dywedodd y Cynghorydd Mel Nott OBE, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn cynnig cyfle unigryw i ddathlu ein treftadaeth, ein dyfodol a thalentau rhyfeddol ein pobl ifanc.

"Gyda sylw eang ar y cyfryngau a disgwyl hyd at 100,000 o ymwelwyr i deithio i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y digwyddiad, mae’r Urdd yn debygol o fod o werth £6m neu fwy i’r economi leol.

“Gorymdaith y Cyhoeddi drwy ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn 8 Hydref fydd y cam cyntaf i nodi dyfodiad yr Urdd ac rwy’n gobeithio y bydd pobl o bob oedran yn dod draw i fwynhau’r orymdaith a’r gweithgareddau, i ymweld â siopau lleol, caffis a bwytai, ac i helpu i roi’r croeso cynhesaf un i’r Urdd.”

Annogir pawb i wisgo coch, gwyn a gwyrdd ar y diwrnod, ac wrth gwrs bydd nwyddau Eisteddfod 2017 ar werth ar y cae gan gynnwys hwdis a chrysau-T.

Dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Sion: “Mae’r gefnogaeth sydd wedi ei dderbyn hyd yn hyn gan bobl yr ardal i ddyfodiad Eisteddfod yr Urdd, sydd yn un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop, wedi bod yn wych.

"Rydym yn ddiolchgar tu hwnt am gymorth cynghorau Penybont-ar-Ogwr a Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â’r gymuned leol, ysgolion a grwpiau. Dwi’n edrych ymlaen at ŵyl gyhoeddi hwyliog a diwrnod o ddathlu, gan edrych ymlaen at fis Mai 2017.”

Cystadleuaeth Faneri

Nid yw’n orymdaith heb faneri, felly cynnigir gwobr ariannol i enillwyr cystadleuaeth creu ac arddangos baner ar y diwrnod, sy’n hyrwyddo’r ysgol/adran ac yn tynnu sylw at ddyfodiad yr Eisteddfod. Gellir chwifio baner Cymru, Triban yr Urdd neu faner Owain Glyndŵr ar yr orymdaith hefyd.

Bydd lle parcio cyfyngedig ar gampws Coleg Pen-y-bont ond annogir i bawb ddefnyddio meysydd parcio’r dref a cherdded i’r man ymgynnull ar gampws y Coleg. Os yn teithio mewn bws neu fws mini yna bydd lle pwrpasol i barcio yn agos at y campws.

Rhannu |