Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Medi 2016

Darganfod hen baentiad gwerth £3m yn Amgueddfa Abertawe

MAE darganfyddiad hen baentiad sy’n werth £3 miliwn yn dangos pwysigrwydd achub Amgueddfa Abertawe, meddai’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru Dr Dai Lloyd.

Credir bod y paentiad, gan yr artist baroc Jacob Jordaens, ym meddiant Amgueddfa Abertawe ers bron 150 o flynyddoedd.

Mae’r amgueddfa’n dathlu ei 175fed penblwydd eleni – ond yn wynebu crebachu oherwydd toriadau gwariant gan Gyngor Abertawe. 

Mae nifer o staff yr amgueddfa eisoes wedi ymadael, gyda rhagor o ddiswyddiadau ar y gweill yn ystod y flwyddyn ariannol i ddod.

“Mae’r newydd syfrdanol yma’n tanlinellu’r ffaith fod gan Abertawe ased werthfawr dros ben yn yr amgueddfa ac yn y Ganalfan Casgliadau yn yr Hafod”, meddai Dr Lloyd.

“Dyma rywbeth dylwn ni ei ddathlu a’i ddatblygu, nid ei redeg i lawr.

“Mae perygl gwirioneddol y gallai diswyddo staff allweddol olygu cau’r amgueddfa –cyflafan i Abertawe ac i Gymru gyfan.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu tasglu ar y cyd gyda Chyngor Abertawe gyda’r nod o sicrhau dyfodol diogel i’r amgueddfa a’i gwasanaethau diwylliannol.”

Bydd BBC4 yn darlledu rhaglen am y paentiad yn y cytaf o'r gyfres 'Britain's Lost Masterpieces' am 9yh, nos Fercher, 28 Medi.

Rhannu |