Mwy o Newyddion
Ffoaduriaid wedi ymgartrefu yng Ngwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn falch o fedru cadarnhau fod Gwynedd wedi croesawu’r ffoaduriaid cyntaf o Syria dros yr haf.
Mae’r 12 ffoadur wedi eu cartrefu yng ngogledd y sir ac mae Adran Tai y Cyngor wedi bod yn gweithio efo landlordiaid preifat er mwyn trefnu llety addas ar eu cyfer.
Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet y Cyngor gyda chyfrifoldeb am dai: “Ers i sefyllfa dorcalonnus y ffoaduriaid ddod i’r amlwg llynedd, mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn rhan o drafodaethau Cymru gyfan ynglŷn â’r Cynllun Adleoli Pobl Fregus o Syria.
“Yn ôl ym Medi 2015, cytunodd Cabinet y Cyngor y byddai Gwynedd yn barod i groesawu pobl yn dianc o Syria pan byddai angen.
“Ar sail y ffigwr o 20,000 o ffoaduriaid mae Llywodraeth Prydain wedi cytuno i’w derbyn dros y bedair blynedd nesaf, rydym yn rhagweld y bydd Gwynedd yn derbyn cyfanswm o 40 o bobl dros yr un cyfnod.”