Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Medi 2016

Galw am wirfoddolwyr wrth i “Poppies: Weeping Window” ddod i Gaernarfon

Mae Castell Caernarfon, mewn partneriaeth â 14-18 NOW, sef rhaglen gelfyddydol y DG ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r prosiect Cymru dros Heddwch, yn falch o roi lle i “Poppies: Weeping Window” gan Paul Cummins, yr Artist a Tom Piper, y Dylunydd rhwng 12 Hydref a 20 Tachwedd 2016.

Mae “Poppies: Weeping Window” yn rhaeadr eiconaidd o filoedd o flodau pabi seramig o waith llaw, a fydd yn llifo o furiau Castell Caernarfon i’r llawr islaw.

Cafodd y ddau gerflun - sef Wave a Weeping Window - eu harddangos yn wreiddiol yn Nhŵr Llundain, a chawsant eu hachub ar gyfer y wlad gan Ymddiriedolaeth Backstage a Sefydliad Clore Duffield, a’u rhoi i 14-18 NOW Ac amgueddfeydd yr Imperial War Museums.

Maent nawr yn cael eu dangos i gynulleidfaoedd mewn lleoliadau ledled y DG fel rhan o raglen 14-18 NOW, sy’n ceisio sbarduno sgwrs genedlaethol am waddol y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae Castell Caernarfon yn gweithio gyda phrosiect ‘Cymru dros Heddwch’ Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a ‘phartneriaid y pabi’ yn yr ardal, sef Amgueddfa Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol, Amgueddfeydd a Chelfyddydau Cyngor Gwynedd a Mantell Gwynedd, i recriwtio tîm o wirfoddolwyr brwd i roi profiad o safon fyd-eang i ymwelwyr sy’n dod i weld y cerflun “Poppies: Weeping Window” tra y bydd yng Nghaernarfon – ac i gynorthwyo gyda rhaglen eang o ddigwyddiadau cymunedol.

Bydd yr arddangosfa ‘Cofio dros Heddwch’, sy’n cynnwys Llyfr Cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf’ – ac sydd ar fenthyg gan y Deml Heddwch yng Nghaerdydd i Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol - yn nodi’r cyfnod hyd at Ddydd y Cofio ar 11 Tachwedd, yn ogystal â chanmlwyddiant diwedd Brwydr y Somme ar 18 Tachwedd.

Bydd ‘Llwybr Treftadaeth Heddwch’ yn mynd ag ymwelwyr o amgylch tref Caernarfon, gan ddechrau wrth Oriel Pendeitsh; a bydd amrywiaeth o weithgareddau i ysgolion yng Nghaernarfon yn cynnwys y Gynhadledd flynyddol i ysgolion ar y Rhyfel Byd Cyntaf a drefnir gan Gymru dros Heddwch, ynghyd â Gwobrau Arwyr Heddwch.  

Dywedodd Megan Cynan Corcoran, Cydlynydd Gwirfoddoli gyda Storiel a Chymru dros Heddwch: “Rydym yn chwilio am bobl gyfeillgar  sy’n gallu rhoi ychydig o’u hamser i fod yn ‘llysgenhadon’ dros Wynedd i ymwelwyr a fydd yn teithio yma o bob rhan o’r byd.

"Bydd y gwirfoddolwyr wrth law  i groesawu hyd at 3,000 o ymwelwyr bob dydd, i ateb cwestiynau ac i roi gwybodaeth.

"Rydym hefyd yn chwilio am bobl i gynnal gweithgareddau addysgol a phrosiectau treftadaeth cymunedol.

"Dyma gyfle gwych i ennill sgiliau a ffrindiau ac i ymwneud â phobl sy’n dod i weld y blodau pabi – i rannu eu meddyliau a’u myfyrdodau wrth iddynt brofi'r darn o gelf hynod deimladwy.”

Mae Pabi: Weeping Window / Poppies: Weeping Window yn dod o'r gosodiad Blood Swept Lands and Seas of Red – y pabi a’r cysyniad gwreiddiol gan yr artist Paul Cummins a’r gosodiad wedi’i ddylunio gan Tom Piper – gan Paul Cummins Ceramics Limited ar y cyd â Historic Royal Palaces.

Yn wreiddiol, roedd y gosodiad yn Nhŵr Llundain rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2014 lle roedd 888,246 o babi wedi  eu gosod i anrhydeddu pob un marwolaeth yn lluoedd Prydain a’r Gymanwlad yn y Rhyfel Byd Cyntaf. “Weeping Window” yw’r rhaeadr o babïau a welid yn llifo allan o ffenestr uchel i lawr i'r glaswellt islaw. Mae'r ail gerflun, “Wave”, hefyd ar daith.

Darperir cymorth a hyfforddiant llawn, a bydd y sesiynau hyfforddi’n cychwyn yn wythnos gyntaf mis Hydref. Yna, rhoddir y gwirfoddolwyr ar rota ar gyfer sifftiau bore a phrynhawn rhwng 11 Hydref a 20 Tachwedd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, ewch i http://www.cymrudrosheddwch.org neu anfonwch neges i poppies@wcia.org.uk. Hefyd, gall darpar wirfoddolwyr alw heibio yng Nghanolfan Wirfoddoli Mantell Gwynedd yng Nghaernarfon, neu ffoniwch 01286 672626 i gael rhagor o wybodaeth.

Rhannu |