Mwy o Newyddion
Esgob Bangor i redeg Marathon Eryri dros wirfoleddwraig yng ngwersyll Calais
Mae Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John, wedi cyhoeddi y bydd yn rhedeg Marathon Eryri ddiwedd Hydref.
Dyma fydd ei bedwaredd marathon a'r trydydd tro iddo bydru ymlaen ar lethrau llethol llwybr Marathon Eryri.
2014 oedd yr achlysur diwethaf iddo roi cynnig ar y llwybr, a gorffennodd mewn amser parchus iawn o 3 awr a 40 munud.
Bydd yr Esgob Andy yn rhedeg i godi arian i gefnogi gwaith a gweinidogaeth Caroline Gregory, sy’n wirfoddolwraig Gristnogol yng Ngwersyll Jyngl Calais.
Rhoddodd Ms Gregory ei rôl mewn newyddiaduraeth i fyny oherwydd iddi deimlo ei bod yn cael ei galw i wasanaethu pobl wedi eu dadleoli yng Ngwersyll Jyngl Calais. Cefnogir ei gweinidogaeth yno yn awr gan roddion oddi wrth bobl - rai ohonynt â ffydd a rhai heb.
Gwelodd yr Esgob Andy waith a gweinidogaeth Ms Gregory yn bersonol pan ymwelodd â’r Gwersyll Jyngl ym mis Ebrill yn rhan o grŵp aml-ffydd o ogledd Cymru.
Meddai: "Rwyf yn adeiladu’r milltiroedd i fyny’n raddol ac mae’r hyfforddiant yn mynd yn iawn hyd yma.
"Ceir synnwyr o déjà-vu mewn ffordd, oherwydd fy mod yn adnabod y cwrs o’r tro cynt ac yn gwybod beth i’w ddisgwyl, ac mae rhai rhannau ohono dydw i ddim yn edrych ymlaen atynt o gwbl!
"Rwyf yn gobeithio’n fawr y bydd pobl yn fy noddi ac felly’n gwneud cyfraniad bach i gynorthwyo i ddod â gofal a chariad Cristnogol i’r ffoaduriaid yn y gwersyll yng Nghalais.
"Mae pethau’n mynd yn waeth yno ar hyn o bryd oherwydd bod mwy a mwy o bobl wedi bod yn cyrraedd bob dydd dros yr wythnosau diweddar, a dydw i ddim yn gallu dychmygu sut y bydd cyflwr pethau yn y gwersyll Jyngl yn awr.
"Caroline Gregory oedd un o ddau o bobl y bu i mi eu cyfarfod ym mis Ebrill y deuthum i sylweddoli eu bod yn unigolion gwefreiddiol iawn y daeth eu gwaith dyniaethol a’u gweinidogaeth â llewyrch o oleuni a chariad angenrheidiol iawn i rywle a oedd ar adegau a dweud y gwir yn llawn cysgodion, yn dywyll ac yn annynol.
"Wrth roi her i’r Farathon Eryri hon eto, rwyf yn gobeithio y bydd pobl yn gallu rhoi a chefnogi gwaith a gweinidogaeth Caroline Gregory."
Gellir rhoi cyfraniad trwy http://www.justgiving.com/crowdfunding/andyjohn