Mwy o Newyddion
Dileu Cymraeg Ail Iaith: Ymgyrchwyr yn croesawu 'cam ymlaen'
Mae ymgyrchwyr wedi croesawu sylwadau mewn cyfweliad gan Weinidog sy'n awgrymu y bydd y cymwysterau Cymraeg ail iaith yn cael eu disodli gan un cymhwyster newydd i bob disgybl.
Yn y cyfweliad ar raglen newyddion S4C, dywedodd Gweinidog y Gymraeg y bydd y system addysg yn 'symud at un continwwm' fel bod 'pob un plentyn' yn 'gallu bod yn rhugl yn Gymraeg'.
Cyfeiriodd at y cyfnod o ddiwygio'r cymhwyster Cymraeg ail iaith fel 'cyfnod pontio' a fydd yn dod i ben yn 2021 gan awgrymu y bydd y cymwysterau Cymraeg ail iaith yn cael eu disodli gydag 'un ffrwd' erbyn y dyddiad hwnnw.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at y Gweinidog gan ofyn am gadarnhad y bydd un cymhwyster Cymraeg cyfun i bob plentyn yn cael ei sefydlu yn lle'r cymwysterau presennol.
Meddai Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni'n croesawu sylwadau'r Gweinidog fel cam ymlaen ac am ei ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn yn rhugl yn yr iaith.
"Rydyn ni'n aros am gadarnhad pendant ganddo ei fod yn bwriadu dileu'r cymwysterau ail iaith a chreu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl yn lle.
"Os dyna yw polisi newydd y Llywodraeth, mae oblygiadau sylweddol o ran hyfforddiant i ymarferwyr addysg.
"Bydd angen cynnydd sylweddol a chyflym yng nghanran y gweithlu sy'n dysgu drwy'r Gymraeg.
"Hefyd, rydyn ni'n awyddus talu teyrnged i flaengaredd yr Athro Sioned Davies ac arbenigwyr eraill sydd wedi pwyso am y newidiadau pellgyrhaeddol hyn.
"Mae'r ymgyrch yn sicr yn dechrau dwyn ffrwyth, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at dderbyn cadarnhad gan y Gweinidog am ei fwriad i greu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl ynghyd â'r camau nesaf ymlaen."
Bydd rali flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy'n cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 8 Hydref yn Llangefni, Ynys Môn, yn canolbwyntio ar alw am addysg Gymraeg i bawb.
Ymysg y siaradwyr bydd y Prifardd Cen Williams, yr actor John Pierce Jones a disgyblion lleol.
Llun: Toni Schiavone