Mwy o Newyddion
Cofio Kyffin Williams
Mae’r mis hwn yn nodi deng mlynedd ers marwolaeth Kyffin Williams – arlunydd Cymreig enwocaf diwedd yr 20fed ganrif.
Fel y nododd yr hanesydd celf Dr Gareth Lloyd Roderick, ef oedd arlunydd ‘cenedlaethol’ poblogaidd Cymru a cafodd ei wneud yn Academydd Brenhinol yn 1973.
Ganed Kyffin Williams yn Llangefni, Ynys Môn yn 1918 a dywedodd yn ei hunangofiant ‘Across the Straits’ mai ei nod mewn bywyd oedd cofnodi tir a phobl ei blentyndod.
Daeth defnydd Kyffin o baent olew trwchus, wedi ei osod gyda’i gyllell balet ar y cynfas, yn nodweddiadol o’i arddull a daeth yn eiconograffig.
Gellir teimlo egni grymus Kyffin yn llifo o’i waith drwy ei ffordd unigryw o daenu’r paent.
Roedd yn arlunydd mynegiadol a honnai iddo greu ei waith gorau pan fyddai’n caniatáu iddo’i hun gael ei "… sgubo i ffwrdd mewn twymyn o afiaith neu hyd yn oed ddicter, gorau oll y byddai’r canlyniad terfynol; tra’r oedd meddwl yn ymwybodol yn ddieithriad yn drychinebus."
Fel epileptig teimlai obsesiwn dwys i beintio ac felly roedd yn arlunydd toreithiog – yn cwblhau hyd at dri phaentiad yr wythnos.
Gallwn dybio hefyd bod ei frwydr ag iselder wedi chwarae rhan yn ei waith.
Dywedodd Kyffin bod "… gwythïen felancolaidd yn rhedeg trwy’r rhan fwyaf o Gymry, melancoli sy’n tarddu o’r bryniau tywyll, y cymylau trymion a’r niwl môr gorchuddiol."
Roedd gan y Llyfrgell Genedlaethol berthynas agos â Kyffin, a daeth carfan fawr o’i ystâd i’r Llyfrgell ar ôl ei farwolaeth yn 2006.
Y Llyfrgell Genedlaethol sydd berchen ar y nifer fwyaf o weithiau Kyffin Williams yn y byd.