Mwy o Newyddion
Un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru yn wynebu difodiant
Hediw daeth cynghrair o fwy na 50 o gyrff cadwraeth blaenllaw o bob rhan o Gymru at ei gilydd i bwysleisio sefyllfa byd natur yng Nghymru.
Yn dilyn adroddiad arloesol Sefyllfa Byd Natur: Cymru yn 2013, mae arbenigwyr blaenllaw o 50 o sefydliadau bywyd gwyllt ac ymchwil wedi cyfuno eu gwybodaeth a’u harbenigedd i gyflwyno darlun cliriach fyth o statws bywyd gwyllt Cymru.
Mae adroddiad 2016 yn datgelu bod 56% o’r rhywogaethau a astudiwyd wedi prinhau ar draws y DU yn y 50 mlynedd ddiwethaf.
Yng Nghymru, mae un o bob 14 rhywogaeth yn wynebu difodiant - gyda 57% o blanhigion gwyllt, 60% o loÿnnod byw a 40% o adar yn prinhau, sy’n peri gofid mawr.
Hefyd, rydym yn gwybod llawer mwy am ein bywyd gwyllt morol nac erioed o’r blaen. Mae mwy na thraean o fertebriaid a phlanhigion y môr (y gwyddom amdanynt) wedi prinhau mewn niferoedd, gyda thri chwarter y fertebriaid y môr wedi prinhau ar draws y DU.
Mae mesur newydd wedi’i ddatblygu i asesu iechyd ein hamgylchedd naturiol.
Ystyrir bod sgôr o 90% neu is yn drothwy sy’n dangos na all ein hecosystemau weithredu i gwrdd â’n hanghenion ni neu anghenion natur.
O bob un o’r 218 a fu’n destun yr asesiad, mae sgôr Cymru ychydig yn is na 83% ac mae yn y chwarter isaf yn nhermau sefyllfa ein hecosystemau naturiol.
Mae hyn ychydig yn well na’r Alban (81.3%), Lloegr (80.6%) a Gogledd Iwerddon (80%) ond yn bell ar ôl gwledydd eraill Ewrop, er enghraifft yr Almaen (88.3%) a Norwy (95.3%).
Dywedodd Rheolwr Bioamrywiaeth RSPB Cymru ac un o awduron adroddiad 2016, Stephen Bladwell: “Dyma’r tro cyntaf i ni wybod cymaint â hyn am sefyllfa byd natur yng Nghymru a’r bygythiadau iddo.
"Am y tro cyntaf, rydym wedi gallu nodi a mesur y prif resymau pam fod ein bywyd gwyllt yn newid – ac mae’n amlwg mai newidiadau i ddulliau rheoli tir a newid yn yr hinsawdd yw’r ddau brif ffactor sy’n effeithio ar fyd natur.
“Dros y degawd diwethaf, mae’r dirywiad i fyd natur wedi parhau.
"Fodd bynnag, mae yna newyddion da.
"Gwyddom fod mesurau cadwraeth, os cânt eu cyflwyno’n dda, yn gweithio a gallant helpu i wyrdroi’r dirywiad i rywogaethau a chynefinoedd.
"Mae hyn yn amlwg gyda’r cynnydd yn nifer y dyfrgwn ac ystlumod, yn ogystal â gloÿnnod byw megis yr ieir bach modrwyog ac adar megis y barcud.”
I godi ymwybyddiaeth am ein byd naturiol a sut gallwn helpu i atal y dirywiad hwn, cafodd adroddiad Sefyllfa Byd Natur: Cymru 2016 ei lansio mewn digwyddiad cyhoeddus heddiw yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, Caerdydd.
Comisiynwyd Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru 2013-2016, Martin Daws, Prifardd Eisteddfod Genedlaethol 2016, Aneirin Karadog, a’r rapiwr Ed Holden (aka Mr Phormula) i greu barddoniaeth ar thema byd natur Cymru.
Dywedodd y perfformiwr a’r Prifardd, Aneirin Karadog: “Fel bachgen ifanc yn tyfu i fyny roeddwn yn ddigon ffodus i allu mwynhau digonedd o fywyd gwyllt ar fy stepen drws.
"Mae bod yn agos at fyd natur yn un o’r rhoddion mwyaf gwerthfawr ac fel tad, mae’n fy nhristáu meddwl bod llai o fywyd gwyllt yng Nghymru heddiw i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
"Ond, rydym yn cael ein hadnabod fel cenedl angerddol yng Nghymru ac rwy’n credu y gallwn ddefnyddio’r angerdd hwn i wyrdroi sefyllfa ein bywyd gwyllt.”
Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd cymunedau, ysgolion a’r cyhoedd yn cael cyfle i ddisgrifio yn eu geiriau eu hunain ‘beth mae natur yn ei olygu iddynt hwy’.
Byddant yn gallu ysgrifennu eu negeseuon personol eu hunain ar nifer o gynfasau mawr a fydd yn teithio o amgylch y wlad - pob un ohonynt yn dangos rhai o’r rhywogaethau sy’n wynebu’r perygl mwyaf yng Nghymru.
Cafodd y cynfasau eu harddangos yn y digwyddiad lansio cyhoeddus heddiw.
Dywedodd y bardd Gair Llafar, Martin Daws: “Fel rhywun sy’n mwynhau adrodd storïau yn fawr iawn, ar lafar ac yn ysgrifenedig, rwy’n edrych ymlaen at ddod â stori natur yng Nghymru yn fyw.
"P’un a ydych yn ymwybodol ohono ai peidio, mae natur yn rhywbeth sy’n effeithio ni gyd, a gall pob un ohonom gyfrannu er mwyn helpu i’w achub.”
Mae partneriaeth Sefyllfa Byd Natur yn annog pobl i roi llais i fyd natur drwy gymryd rhan mewn ystod eang o brosiectau, sy’n cael eu cynnal gan y partneriaid Sefyllfa Byd Natur er mwyn helpu natur.
Gall gwirfoddolwyr ddewis prosiectau o’r categorïau canlynol; cyfrif a monitro natur, ymgyrchu, rheoli eich gofod a byw’n gynaliadwy. I dderbyn manylion llawn am y prosiectau, ewch i http://rspb.org.uk/stateofnature
Aeth Stephen ymlaen i ddweud: “Mae’r ffordd yr ydym yn diogelu a rheoli ein hamgylchedd yn hollbwysig er mwyn gwyrdroi dirywiad byd natur.
"Mae angen dull cydlynol ar draws y llywodraeth, busnesau, sefydliadau cadwraeth a’r cyhoedd.
"Cafodd deddfwriaeth arloesol ei phasio’n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru a allai, os gweithredir yn effeithiol, weld Cymru’n arwain y ffordd ar gyfer adferiad bioamrywiaeth yn y DU.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth pobl Cymru, godi i’r her.”