Mwy o Newyddion
Côr Cantorion Porth yr Aur yn taro’r nodau uchel er budd elusen dementia
Un o brif gorau Cymru wedi taro’r nodau uchel er budd elusen dementia. Cododd Cantorion Porth yr Aur o Gaernarfon £1,400 ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer er mwyn ariannu eu gwaith yn y gymuned leol.
Yn briodol iawn, cyfrannwyd £250 o nawdd tuag at y cyngerdd gan Bryn Seiont Newydd, y ganolfan arbenigol dementia a agorwyd gan sefydliad gofal Parc Pendine.
Yn ôl y côr, roedd y rhodd yn ddigon i dalu eu holl gostau ac yn golygu bod pob ceiniog o elw'r cyngerdd yn mynd i’r elusen.
Yn ogystal â'r côr, roedd cyngerdd Blas y Brifwyl yn Theatr Seilo, Caernarfon hefyd yn cynnwys perfformwyr eraill a fu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni eleni.
Cyflwynwyd yr arian a godwyd yn y cyngerdd yn Bryn Seiont Newydd.
Dywedodd Gwynfor Jones, llefarydd ar ran Parc Pendine: "Roeddem yn falch iawn o allu noddi’r cyngerdd gwych yma a oedd er budd achos sy'n agos iawn at ein calonnau yma yn Bryn Seiont Newydd.
"Cartref gofal yn y gymuned ydym ni, lle mae cerddoriaeth a diwylliant yn rhan ganolog iawn o fywyd bob dydd.
"Does dim byd tebyg i gerddoriaeth i gyrraedd pobl â dementia ac mae’n cynnig modd o ddatgloi eu hatgofion."
Yno i dderbyn y siec ar ran y Gymdeithas Alzheimer yr oedd Cheryl Williams, sy'n gweithio i’r elusen fel Swyddog Gwybodaeth Cyfeillion Dementia.
Ar ôl cael ei thywys o amgylch y ganolfan, dywedodd Cheryl ei bod yn llawn edmygedd o Bryn Seiont Newydd, a gafodd ei enwi fel y cartref gofal newydd gorau yn y DU yn noson wobrwyo nodedig Gwobrau Dylunio Gofal Iechyd Pinders 2016.
Ychwanegodd: "Mae'r gwasanaethau y mae'r Gymdeithas Alzheimer yn eu cynnig yn lleol yn dibynnu ar ymdrechion codi arian pobl yn ogystal ag arian o ffynonellau eraill.
"Yng Ngwynedd a Môn mae’r gymdeithas yn cynnig gwasanaethau sy’n cynnwys, Gweithwyr Cymorth Dementia, sy'n darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth i bobl sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr dros y ffôn a thrwy ymweliadau cartref.
"Un o'r gwasanaethau newydd yn yr ardal yw Ochr yn Ochr. Prif nod y gwasanaeth yw mynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol ac unigrwydd.
"Mae gwirfoddolwyr a gweithwyr sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn darparu cwmnïaeth ac o fewn hyn yn rhoi’r gallu, anogaeth a’r cymorth i adeiladu hyder pobl sy'n byw gyda dementia. Mae hefyd yn cefnogi pobl â dementia i gadw neu ailgydio mewn hobïau a diddordebau neu i gael y cyfle i fanteisio ar weithgareddau ar hamdden newydd.
"Mae Cyfeillion Dementia yn fenter gan y gymdeithas sy'n rhoi cyfle i unrhyw un ddysgu ychydig mwy am sut beth yw byw gyda dementia, gwella eu dealltwriaeth a hefyd helpu i wneud eu cymuned yn fwy dementia gyfeillgar.
"Mae yna tua 11,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru sydd wedi cael diagnosis o ddementia a thrwy leihau ychydig o'r stigma sy'n gysylltiedig â dementia, rydym yn gobeithio y bydd pobl yn fwy parod i drafod a chael sgyrsiau am y pwnc.
"Mae dwy ran o dair o bobl sy'n byw â dementia yn byw yn y gymuned, ond wedyn mae'r symptomau yn gwaethygu’n raddol, ac yn naturiol felly mae angen canolfannau fel Bryn Seiont Newydd fel bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt ac yn teimlo'n ddiogel.
"Mae hefyd yn bwysig eu bod yn gallu aros yn eu cymunedau eu hunain a bod staff yma sy'n gallu siarad Cymraeg sy’n bwysig iawn yn yr ardal hon."
Dywedodd Glenys Griffiths, trysorydd y côr cymysg o 50 aelod a ddaeth yn ail yn yr Eisteddfod Genedlaethol: "Mae'n briodol iawn bod Bryn Seiont Newydd yn noddi’r cyngerdd ac maen nhw wedi bod yn hynod gefnogol. Daeth Cheryl Williams i'r cyngerdd i esbonio am y gwaith y mae’r Gymdeithas Alzheimer yn ei wneud, ac roeddem yn falch iawn o allu cyflwyno siec iddi o £1,400.
"Y dyddiau hyn, mae gan gymaint o bobl efo rhyw fath o gysylltiad â rhywun sydd â dementia - mae yna ddynes oedd yn arfer byw tua thri drws i ffwrdd oddi wrthyf ac mae hi yma yn Bryn Seiont Newydd ynghyd â dynes arall rwy’n ei hadnabod.”