Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Medi 2016

Brodyr brawychus mewn gŵyl gerdd

Mae disgyblion o wyth o ysgolion cynradd yng Ngogledd Cymru wedi rhoi gwedd newydd ar stori Gymraeg hanesyddol, drwy weithio gyda bardd a chyfansoddwr o fri. 

Mae Branwen a’i Brodyr Brawychus yn ddarn newydd o gerddoriaeth a luniwyd gan y cyfansoddwr Gareth Glyn, sy’n byw yn Ynys Môn, ac a gomisiynwyd gan Ŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Gogledd Cymru ar gyfer ei Diwrnod Addysg ar 26 Medi.

Daw’r ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith newydd Gareth Glyn o’r llenyddiaeth rhyddiaith Brydeinig gynharaf y gwyddom amdani a chwedlau clasurol Cymru, y Mabinogi.

Nawr, mae plant o wyth o ysgolion cynradd yn gweithio gyda’r bardd a’r adroddwr, Aled Lewis Evans, i roi geiriau i’r gerddoriaeth, ond gan ddefnyddio arddull y storïwr a’r awdur enwog Roald Dahl, i nodi canmlwyddiant ei enedigaeth yng Nghaerdydd. 

Bydd yr ŵyl, sy’n cael ei chynnal yng Nghadeirlan Llanelwy a ddechreuod ddydd Sadwrn, 17 Medi, yn cael ei chynnal gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Tŷ Cerdd a Llenyddiaeth Cymru, ac yn parhau tan ddydd Sadwrn, 1 Hydref.

Dywed Aled, sy’n byw yn Wrecsam, ei fod yn ymweld ag ysgolion cynradd i weithio gyda’r plant fel y gallant ysgrifennu geiriau ar gyfer y perfformiadau Cymraeg a Saesneg o ‘‘Branwen a’i Brodyr Brawychus’’.

Meddai Aled: “Mae stori Branwen o’r Mabinogi yn eithaf tywyll, cymhleth a llym ond rwyf am gael barn y plant am y stori a’u cael i feddwl ac ysgrifennu gan ddefnyddio arddull Roald Dahl.

“Mae Gareth Glyn eisoes wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth a bydd y geiriau’n cael eu defnyddio yn ystod y seibiannau yn y gerddoriaeth.  Bydd yr adroddwyr, ac rwyf yn gobeithio mai disgyblion o bob ysgol, yn hytrach na fi, fydd yn adrodd y stori, yn adrodd y stori a bydd y gerddoriaeth sy’n dilyn yn helpu i gyfleu’r stori.

“Pan fyddwn yn cyfuno’r geiriau a’r adrodd gyda’r gerddoriaeth, bydd yn ddiddorol iawn. Mae’n rhywbeth rwy’n edrych ymlaen ato’n fawr iawn.”

Mae Aled yn dweud ei fod yn gweithio ar y prosiect gyda disgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn Sir Ddinbych.

Dywedodd: “Dechreuais gyda disgyblion Blwyddyn 6 yn Ysgol Llys, Prestatyn, ac rwyf hefyd wedi gweithio gyda disgyblion o Ysgolion Trefnant a Llanbedr, Ysgol Carrog ac Ysgol Caer Drewyn, Corwen, Ysgol Henllan yn Ninbych, Ysgol Esgob Morgan, Llanelwy ac Ysgol Dewi Sant, y Rhyl.

“Mae plant yn caru Roald Dahl ac mae’n ymwneud â’u cael i weithio yn Gymraeg a Saesneg a meddwl am y geiriau a sut i ysgrifennu rhyddiaith delynegol.  Buom yn edrych ar rannau ysgafnach y stori. Bu’n ychydig o her ond yn llawer o hwyl hefyd.”

Ychwanegodd: “Bydd Ensemble Cymru yn perfformio’r gerddoriaeth a bydd yr ysgolion yn cyflwyno eu geiriau.  Rwyf hefyd yn adrodd Hugan Fach Goch, o lyfr Cerddi Ffiaidd Roald Dahl, sy’n cyflwyno storïau traddodiadol mewn ffordd ddoniol.

“Ac mae’n fwy na geiriau yn unig oherwydd mae gennym yr artistiaid Ben Davis a Jude Wood yn gweithio gyda’r plant hefyd. Maent yn cynhyrchu gwaith celf sy’n cyd-fynd â’r geiriau a’r gerddoriaeth.

“Bydd y Diwrnod Addysg yng Ngŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Gogledd Cymru eleni yn ddigwyddiad gwych ac rwy’n llawn cyffro yn ei gylch.”

“Mae’n bwysig bod disgyblion yn cael y cyfle i glywed cerddoriaeth glasurol yn cael ei chwarae gan gerddorion rhagorol.”

Dywedodd y cyfansoddwr Gareth Glyn: “Bu’n brosiect anarferol braidd oherwydd, fel arfer, bydd y geiriau’n cael eu hysgrifennu gyntaf ac yna bydd y gerddoriaeth yn cael ei chyfansoddi. Fodd bynnag, y tro hwn, rydym wedi gwneud i’r gwrthwyneb a chyfansoddais y sgôr yn gyntaf.

“Gwaith Aled, a’r artistiaid, wedyn oedd mynd i’r ysgolion a gweithio gyda’r plant ar lunio cwpledi sy’n odli i ddweud hanes Branwen.

“Mae’n hanes hen iawn sy’n sôn am briodas Branwen â Brenin o Iwerddon. Mae’n anhapus ac mae ei dau frawd ansefydlog, Efnisien a Bendigeidfran, yn mynd draw i Iwerddon i’w hachub hi.

“Mae Efnisien yn frawychus ac mae’n dinistrio pob dim y mae’n ei gyffwrdd, ac mae hyd yn oed yn gwasgu pennau ymladdwyr y fyddin Wyddelig.

“Ac mae Bendigeidfran mor anferth fel ei fod yn cerdded i Iwerddon ar draws y môr. Roedd mor fawr fel bod pobl yn meddwl bod ei ben, a oedd i’w weld uwchlaw’r dŵr wrth iddo gerdded, yn ynys.”

Ychwanegodd: “Mae’r cyfansoddiad yn cynnwys 25 o ddarnau o gerddoriaeth sy’n disgrifio geiriau’r cwpled sy’n odli sy’n dod o’i flaen.  Bu’n brosiect arbennig ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld sut y bydd yn dod at ei gilydd yng Ngŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Gogledd Cymru.”

Dywedodd Ann Atkinson, cyfarwyddwr artistig Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Gogledd Cymru:  “Bydd yn ddigwyddiad arbennig iawn.  Rwy’n hynod falch fod Gareth Glyn wedi derbyn ein comisiwn ac wedi cytuno i gyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer ‘Branwen a’i Brodyr Brawychus’.

“Mae’r canlyniad yn wych ac rwyf wrth fy modd gyda sut mae’r holl brosiect wedi dod ynghyd.  Mae’r plant sydd wedi gweithio ar y prosiect wedi cyflwyno syniadau a chwpledi sy’n odli rhagorol y byddai Roald Dahl wedi bod yn hynod falch ohonynt.”

Ychwanegodd: “Mae gennym raglen wych ac amrywiol ar gyfer gŵyl eleni gan gynnwys cyngerdd Dyheu/Ysbrydoli gyda’r delynores frenhinol, Anne Denholm, yn ogystal ag Iwan Llewelyn Jones, Siwan Rhys a disgyblion o Ysgol Glan Clwyd a Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych.

“Ac mae gennym berfformiadau cyngerdd hefyd gan y gitarydd clasurol Miloš Karadagli? a Margaret Preece, y soprano o sioeau’r West End, a fydd yn perfformio caneuon a ysbrydolwyd gan Rodgers and Hammerstein, NEW Sinfonia, y feiolinydd Tamsin Waley-Cohen, a grwpiau lleisiol Ex Cathedra, Cantorion Dyffryn Clwyd a Chôr yr Ŵyl.

"A bydd ein taith gymunedol, gyda chefnogaeth gan Gelfyddydau a Busnes Cymru, Cartrefi Conwy ac R M Jones Joinery yn cynnwys y cyngherddau ysgol a phlant bach yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Yn wir, mae rhywbeth i bawb yn yr ŵyl eleni. "

Bydd Branwen a’i Brodyr Brawychus’ yn cael ei berfformio ar ddydd Llun, Medi 26 yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy Llanelwy yn Saesneg am 10:30yb ac yn Gymraeg am 1yp. Mae tocynau ar gyfe ry perfformiadau hyn ar gael o Swyddfa'r Ŵyl - caroline@nwimf.com neu 01745 584508. Mae tocynnau cynherddau nos yr ŵyl ar gael drwy archebu arlein neu o Theatr Clwyd, 01352 701521 neu Cathedral Frames, Llanelwy, 01745 582,929. I gael mwy o wybodaeth am Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, ewch i http://www.nwimf.com

Rhannu |