Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Medi 2016

Dyn camera yn canobwyntio ar ynni am ddim yng ngwinllan pŵer solar cyntaf Cymru

Yn ogystal â chynhyrchu gwin da, mae gwinllan pŵer solar gyntaf Cymru yn cael ei thalu i gynhyrchu trydan am ddim gan werthu unrhyw ynni sydd dros ben i'r grid cenedlaethol.

Cafodd gwinllan Pant Du ger Penygroes, yng Ngwynedd, ei sefydlu gan y dyn camera teledu, Richard Wyn Huws a'i wraig Iola, mewn lleoliad hyfryd gyda golygfeydd godidog yn edrych draw tuag at fynyddoedd Eryri.

Mae Richard, sydd wedi ennill dwy wobr BAFTA Cymru am ei waith camera medrus ar rai o ddramâu amlycaf S4C, yn awr hefyd yn ennill gwobrau ar gyfer y gwin sy’n cael ei gynhrchu o’r 8,000 o winwydd a blannwyd mewn rhesi taclus ar draws wyth erw a hanner o Ddyffryn Nantlle.

Mae'r cwpl hefyd wedi plannu 3,000 o goed afalau er mwyn cynhyrchu eu seidr eu hunain a drilio dau dwll turio, un ohonynt i ddarparu ar gyfer eu hanghenion yn y cartref a'r twll arall i ddarparu cyflenwad da o ddŵr ffynnon y maent yn ei werthu yn eu siop a’u caffi ar y safle.

Yn ôl Richard, un o'u prif flaenoriaethau oedd i'r busnes fod yn gynaliadwy ac yn amgylchedd-gyfeillgar.

Mae'r lleoliad sy’n wynebu tua'r de yn ddelfrydol ar gyfer pŵer solar a bellach mae ganddynt 44 o baneli a gafodd eu gosod gan yr arbenigwyr ynni adnewyddadwy o Lanelwy, Carbon Zero.

Mae'r paneli solar yn cynhyrchu hyd at 16 cilowat o bŵer gyda'r rhan fwyaf o'r ynni am ddim yn cael ei gynhyrchu yn ystod misoedd yr haf pan mae ei angen fwyaf.

Esboniodd Richard: "Roedd gweithio gyda Carbon Zero yn wych. Mi wnaethon nhw esbonio popeth yn glir a’n helpu drwy'r broses gynllunio.

"Rydym bellach yn gwerthu peth pŵer i'r grid cenedlaethol ond yn bwysicach rydym yn cael ein talu i gynhyrchu trydan am ddim.

"Rwyf wedi newydd dderbyn y taliadau am chwarter cyntaf y flwyddyn a oedd ychydig o dan £800 – ac roedd hynny ar gyfer cyfnod y gaeaf/gwanwyn, sef yr adeg waethaf o'r flwyddyn ar gyfer cynhyrchu ynni solar.

"Roeddwn i'n arfer gyrru car diesel, ond erbyn hyn mae gen i gar trydan Tesla rwy’n gallu ei bweru am ddim – dydi o'n costio dim i mi pan rwy’n rhoi fy nhroed i lawr.

"Rwy'n credu ein bod bron yn hunangynhaliol, ond byddaf yn gallu dweud mwy erbyn Rhagfyr nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at weld faint rydym yn gwneud bob tymor a faint yn ystod y flwyddyn.

"Y cam nesaf i ni rwy’n meddwl yw storio'r ynni rydym yn ei greu yn ystod y dydd mewn batris, er enghraifft batris Tesla, fel nad ydym yn gwastraffu unrhyw beth.

"Mae ynni solar yn cyd-fynd yn berffaith â'n hethos fel cwmni gan ein bod am fod yn hunangynhaliol.

"Mae'n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill. Yn y lle cyntaf rydym yn ennill drwy helpu'r amgylchedd ac yn ail mae'r trydan rhad ac am ddim. Rydych hefyd yn gallu gwerthu i'r grid a chael arian ohono ar gyfer eich cynilion.

"Mae hefyd yn dda ar gyfer marchnata. Mewn busnes, mi fuasech yn synnu faint o ganmoliaeth rydym yn ei gael gan gwsmeriaid am osod paneli solar."

Dywedodd Gareth Jones, rheolwr Carbon Zero: "Mae Richard yn hapus iawn gyda'r hyn sydd ganddo o ran pŵer solar a fydd yn rhoi incwm iddo dros 20 mlynedd.

"Mewn ffordd, mae'n debyg fod gwinllan Pant Du yn fusnes perffaith ar gyfer ynni solar ac mae'r lleoliad yn ddelfrydol. Mae mewn lleoliad gwych gyda drychiad agored braf.

"Mae'r ffaith ei fod wedi bod yn gymaint o lwyddiant i’r busnes, yn dangos bod yna ddyfodol mawr i ynni'r haul. Dylai unrhyw fusnes sy’n edrych i'r tymor hir ystyried solar a gweld os gallai weithio iddyn nhw.

"Rydym wedi gosod paneli uwch-dechnoleg SolarWorld o’r Almaen sy'n cael eu gweithio’n annibynnol gyda phorth monitro ar-lein er mwyn tracio pob panel yn unigol.

"Mae'n gwneud synnwyr i sicrhau eich dyfodol ynni y ffordd hon drwy gynhyrchu pŵer am ddim a’r neges yw ein bod ni’n gallu gwella’r llinell isaf ar gyfer unrhyw fusnes.

"Bydd buddsoddiad mewn paneli solar yn gwneud mwy o elw a byddwch yn talu llai o arian i'r cwmni ynni. Yn y bôn, mae'n golygu mwy o arian yn eich poced."

Mae Richard yn enedigol o bentref cyfagos Talysarn, a dechreuodd weithio yn y diwydiant ffilm a theledu yn 1985 gan weithio ar lu o ddramâu poblogaidd S4C gan gynnwys C'mon Midfiled, Pengelli, Talcen Caled, Caerdydd a Porc Peis Bach.

Enillodd BAFTA am ei waith ar Alys a Martha Jac a Sianco, ond er ei fod yn dal i weithio fel dyn camera yn achlysurol, mae’r rhan fwyaf o'i fywyd gwaith bellach yn cael ei neilltuo i Pant Du, y fferm hanesyddol sy’n dyddio nôl i'r 17eg ganrif a brynwyd ganddo ef a Iola yn 2003.

Roedd y syniad o sefydlu gwinllan wedi tyfu yn ei feddwl ers taith i Seland Newydd ychydig flynyddoedd ynghynt pan welodd pa mor llwyddiannus oedd y diwydiant gwin yno.

Plannodd Richard ddau fath o rawnwin Pinot Noir ac amrywiaeth arall o'r enw Rondo a ddarganfuwyd yn yr hen Tsiecoslofacia yn 1964, ac sydd wedi bod yn llwyddiant mawr ar ôl canfod cartref newydd wrth droed mynyddoedd Eryri.

Mae grawnwin Rondo yn gwarantu ffrwythau bob blwyddyn ac yn cynhyrchu gwin coch ysgafn ynghyd â rosé cynnil ac mae'r winllan hefyd yn cynhyrchu gwin gwyn o fathau Bacchus, Siegerrebe a Seyval Blanc.

Mae Pant Du yn gwerthu hyd at 2,500 o boteli o win y flwyddyn, yn bennaf o’u siop eu hunain ond hefyd mewn gwestai a bwytai lleol.

Mae yna hefyd fusnes gwneud sudd afal a seidr helaeth yn cynnwys 18 erw o berllannau gyda 42 o wahanol fathau o goed afal.

Yn eu plith mae 700 o goed sy'n tyfu afalau enwog Ynys Enlli y bu Pant Du yn helpu i'w harbed rhag diflannu am byth.

Dywedodd Richard: "Roeddwn i'n gwybod bod y lle’n addas ar gyfer tyfu cnydau oherwydd bod yr hen ffermwyr wedi dweud wrtha i fod pethau'n tyfu’n dda ym Mhant Du.

"Maen nhw'n tyfu'n dda oherwydd ei fod yn wynebu tua'r de ac yn cael haul drwy'r dydd. Mae'n rhaid i chi gael yr haul drwy'r dydd er mwyn cael rhywfaint o siawns i dyfu grawnwin.

"Mae ein gwin wedi ennill gwobrau Cymdeithas Gwinllannoedd y Deyrnas Unedig a Chymdeithas Gwinllannoedd Cymru a'r llynedd enillodd ein seidr 3 seren Gwir Flas.

"Yn fy marn i, yr hyn rydym wedi llwyddo i'w wneud yw gwireddu breuddwyd oedd gennyf yn blentyn, sef agor drysau Dyffryn Nantlle i dwristiaeth a'r byd i gyd ac mae'r caffi a'r winllan yn gwneud hynny.

"Mae pobl yn dod i fyny’r llwybr ac yn meddwl eu bod yn Ewrop, yr Eidal, neu Ffrainc, ond yr hyn sydd gennym yw canolfan Gymreig â phobl yn dod yma i gymdeithasu a gweld ffrindiau.

"Y llynedd, am y tro cyntaf, roedd gennym ddigon o afalau i wneud ein sudd afal Enlli ein hunain ac roedd yn blasu'n arbennig o dda.

"Er mai fi sy'n dweud hyn, mae sudd afal Enlli yn anhygoel o wych. Mae'n ysgafn, heb fod yn rhy felys neu siarp. Mae gyda'r sudd afal gorau i mi ei flasu erioed, ac mae'n unigryw i Pant Du."

Am fwy o wybodaeth ynghylch Carbon Zero Renewables ewch i http://www.carbonzerorenewables.co.uk ac i wybod mwy am Pant Du ewch i http://www.pantdu.co.uk

 

Llun: Richard Wyn Huws (chwith) a Gareth Jones

Rhannu |