Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Medi 2016

Cronfa adfywio adeiladau canol dref Caernarfon

Mae cronfa benthyciadau sydd wedi ei sefydlu gan Gyngor Gwynedd yn galluogi perchnogion eiddo yng ngahnol tref Caernarfon i adnewyddu eu hadeiladau.

Mae’r gronfa benthyciadau gwerth £700,000, a sefydlwyd yn dilyn cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i Age Cymru Gwynedd a Môn yn ddiweddar i ail-leoli safle busnes o Ffordd Santes Helen i Stryd y Llyn yng Nghaernarfon.

Derbyniwyd cymorth ariannol drwy’r Gronfa Benthyciadau Canol Dref Caernarfon i gwblhau addasiadau i’r adeilad yn Stryd y Llyn i hwyluso’r symudiad.

Dywedodd Eleri Lloyd-Jones, Prif Swyddog Age Cymru Gwynedd a Mon: “Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu derbyn cefnogaeth Cyngor Gwynedd drwy’r Gronfa Benthyciadau Canol Dref Caernarfon i helpu gyda pryniant ac uwchraddio ein adeilad yn Stryd y Llyn.

"Mewn cyfnod lle bo arian cyhoeddus yn llawer fwy prin, mae argaeledd mentrau benthyciadau fel hyn yn gymorth garw i fusnesau bach lleol.”

Meddai’r Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd: “Mae’n wych gweld fod perchnogion adeiladau yn yr ardal yn gwneud y mwyaf o’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i wella cyflwr eiddo yng nghanol y dref.

"Fel Cyngor, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda phartneriaid dros y blynyddoedd i sicrhau adfywiad yn yr ardal, ac mae’r benthyciadau sydd ar gael yn sicr yn cynnig cyfle gwych i fusnesau a phreswylwyr i adnewyddu adeiladau yn ardal canol tref Caernarfon.

“Byddem yn annog unrhyw un sy’n meddwl eu bod yn gymwys i gysylltu gyda thîm cefnogi busnes y Cyngor, bydd swyddogion yn gallu eich cynghori am y gronfa.”

Mae’r Gronfa Canol Dref Caernarfon yn fenthyciad ddi-log ar gael i perchnogion eiddo yng nghanol dref Caernarfon i gwblhau gwelliannau neu gwneud defnydd o eiddo gwag.

Gweinyddir y gronfa gan Gyngor Gwynedd ac ariannwyd gan Llywodraeth Cymru.

Am fanylion llawn o’r gronfa, ewch i: http://www.gwynedd.llyw.cymru/busnes neu cysylltwch gydag Uned Cefnogi Busnes Cyngor Gwynedd ar 01286 679231.

LLUN: Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd gydag Aled Evans ac Eleri Lloyd-Jones yn swyddfa Age Cymru Gwynedd a Môn

Rhannu |