Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Medi 2016

Rali Cymru GB yn cael caniatâd i ddefnyddio coedwigoedd Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Motor Sports Association (MSA) wedi arwyddo cytundeb mynediad newydd a fydd yn caniatáu i Rali Cymru GB ddefnyddio tir a reolir gan CNC yn ystod y tair blynedd nesaf.

Mae CNC wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi rasio moduron yng Nghymru ers sawl blwyddyn bellach, ac mae ganddo berthynas weithio lwyddiannus gyda’r MSA wrth gynnal digwyddiadau ar bob lefel.

Yn gynharach eleni cyhoeddus CNC ei fod angen sicrhau y byddai’r gost o drwsio ffyrdd coedwigoedd ar ôl y ralïau’n cael eu talu gan y trefnwyr.

CNC sy’n gyfrifol am ffyrdd coedwigoedd poblogaidd yn Hafren, Myherin, Clocaenog a Dyfi, ac ym mis Hydref fe fydd rownd y DU o Bencampwriaethau Rali’r Byd yr FIA yn cael ei chynnal ar hyd y ffyrdd hyn.

Meddai Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Gogledd a Chanolbarth Cymru yn Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae’r ffyrdd rydym yn gofalu amdanynt wedi cyrraedd statws chwedlonol braidd yn y byd ralio.

“Gyda mwy nag 84,000 o ymwelwyr yn mynychu’r digwyddiad hwn, yn amlwg mae ralio’n gwneud cyfraniad pwysig at ein heconomi wledig.

“Gobeithio y bydd y cytundeb mynediad newydd hwn yn anfon neges gadarnhaol i’r gymuned ralio – sef bod CNC a’r MSA yn parhau i fod â pherthynas weithio dda a’u bod yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y digwyddiad pwysig hwn yn nghalendr moduro Cymru yn cael ei gynnal.”

Mae trafodaethau’n parhau rhwng CNC, yr MSA a Rally4Wales ar gyfer y costau o drwsio’r ffyrdd wedi i’r rali gael ei chynnal, a gobaith pawb yw gallu dod i ganlyniad llwyddiannus yn y dyfodol agos.

Ychwanegodd Tim: “Rydym yn gweithio’n galed i ddod o hyd i ateb hirdymor ar gyfer mater cysylltiedig, sef y swm a godwn fesul milltir ar gyfer cynnal y rali ar ein tir.

"Byddwn yn parhau â’n trafodaethau gyda’r MSA a Rally4Wales i ddod o hyd i ateb a fydd yn galluogi’r selogion i fwynhau’r rasio, a sicrhau’r un pryd y bydd coedwigoedd Cymru yn cael eu gwarchod a’u cynnal a’u cadw.

Meddai Rob Jones, Prif Weithredwr yr MSA: “Mae’r cytundeb mynediad tair blynedd newydd yn cadarnhau’r hyder sydd gan yr MSA a CNC yn ei gilydd, gan gynnig llwyfan hollbwysig inni ar gyfer parhau i ganolbwyntio ar y swm a godwn fesul milltir a’r bartneriaeth ehangach rhwng y ddau sefydliad.”

Rhannu |