Mwy o Newyddion
Galw am Dîm Olympaidd Cymreig
Mae Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans ASE, wedi siarad yn gyhoeddus yn erbyn ffurfio tîm pêl-droed y DU erbyn Gêmau Olympaidd y flwyddyn nesaf. Mae Ms Evans yn cefnogi safiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac yn gofidio y gallai’r cynlluniau arfaethedig fygwth annibyniaeth pêl-droed cenedlaethol Gymreig.
Dywedodd Ms Evans na ddylid cymryd annibyniaeth pêl-droed Cymru’n ganiataol, pan nad yw cenhedloedd fel Catalwnia mor ffodus.
Dywedodd Ms Evans: "Rwy’n llwyr gefnogi safiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru ynglŷn â’r mater hwn. Mae’n hanfodol bwysig i Gymru gadw ei hannibyniaeth ym mhêl-droed. Dyw’r Gêmau Olympaidd ddim yn cynrychioli uchafbwynt medr pêl-droedio oherwydd taw cystadleuaethi’r sawl sydd dan 23 ydyw. Mae dyfodol tîm cenedlaethol Cymru lawer yn fwy pwysig.
"Chaiff Cymru ddim llawer o fudd allan o gymryd rhan yn y gystadleuaeth fel Tîm Prydain Fawr, ond eto mae’r peryglon yn enfawr. Dyna pam mae cymdeithasau pêl-droed Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon oll yn unedig yn eu gwrthwynebiad i’r argymhellion i greu tîm Prydain.
"Alla i ddim deall pam fod Cymdeithas Olympaidd Prydain yn dadlau y dylwn ni yng Nghymru ymddiried yn FIFA ynglŷn â'r mater hwn, yn enwedig ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr gyhuddo FIFA yn ddiweddar o fod yn llwgr!"
Yn dilyn cyfarfod gyda Sefydliad FC Barcelona ym Mhrifddinas y Catalaniaid ar ddydd Mercher, dywedodd Ms Evans: "Byddai’r Catalaniaid yn dwli ar gael tîm cenedlaethol – tîm y gellir ei ddadlau fyddai’r un gorau yn y byd ar hyn o bryd. Mae Cymru’n cael ei weld yn gyfartal â phob cenedl bêl-droed arall yn y byd a rhaid cadw’r statws hwnnw."
Cynigodd Ms Evans ddatrysiad i’r sefyllfa bresennol: "Mae Cymdeithas Olympaidd Prydain wedi trin Cymdeithas Bêl-Droed Cymru gyda dirmyg llwyr drwy ddatgan bod ‘cytundeb hanesyddol’ wedi cael ei daro, er ei fod yn amlwg taw nid dyma’r achos o gwbl.
"Mae Plaid Cymru wedi galw am i Gymru gael ei thîm ei hun yn y Gêmau Olympaidd yn y dyfodol. Mae’r digwyddiad yma yn cynnig rheswm da arall dros wneud hyn."