Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Medi 2016

Bwrdd Iechyd yn wfftio honiadau am ganoli gwasanaethau fasgiwlar

MAE Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi pwysleisio nad ydynt yn bwriadu symud unedau fasgiwlar Ysbyty Gwynedd a Wrecsam Maelor i Ysbyty Glan Clwyd, gan adael Bangor a Wrecsam heb eu gwasanaeth fasgiwlar sydd mor uchel ei chlod.

Dateglodd yr Aelod Cynulliad Sian Gwenllian ei phryder ddoe ynglŷn â'r canoli posibl a'r perygl fod gwasanaethau yn symyd yn aradeg tua’r dwyrain.

Ond mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi wfftio'r honiadau.

Meddai llefarydd ar ran y Bwrdd: "Nid oes unrhyw gynlluniau ar y gweill i gau’r un o adrannau fasgwlaidd ein hysbytai.

"Byddant yn parhau i fod yn weithredol ym mhob un o’n tri phrif ysbyty a byddant yn parhau i weithio’n agos gyda gwasanaethau cysylltiedig eraill yn yr ysbytai hyn, fel y rhai ar gyfer cleifion â diabetes a chyflyrau arennol.

"Bob blwyddyn mae angen llawdriniaeth fasgwlaidd gymhleth iawn ar ryw 300 o gleifion yng Ngogledd Cymru - rhyw chwe achos bob wythnos.

"Mae tystiolaeth glinigol gref i ddangos bod y cleifion hyn yn cael y canlyniadau mwyaf llwyddiannus pan gaiff eu llawdriniaeth ei rhoi gan dîm sy’n cynnig y llawdriniaethau hyn yn rheolaidd mewn uned fasgwlaidd arbenigol.

"Dyna pam yn 2013, yn dilyn ymgynghori â’r cyhoedd, y gwnaeth y Bwrdd benderfynu gweithio tuag at roi’r llawdriniaethau cymhleth hyn mewn un ysbyty (Glan Clwyd), yn hytrach nag ar draws tri safle.

"Mae’n bwysig pwysleisio bod yr achosion cymhleth hyn yn cyfrif am 20% yn unig o’n gweithgarwch fasgwlaidd.

"Bydd 80% o gleifion yn parhau i dderbyn eu gofal a’u llawdriniaeth fasgwlaidd yn eu hysbytai lleol - Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam, yn ogystal ag yn Ysbyty Glan Clwyd."

Rhannu |