Mwy o Newyddion
Rhaglen Lywodraethu Llafur yn brin o fanylion, rhybuddia Leanne Wood
Mae Rhaglen Lywodraethu Llafur yn brin o fanylion ac yn siomi disgwyliadau, medd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood.
Nododd arweinydd Plaid Cymru ei siom nad yw’r ddogfen yn dweud yn fanwl sut y bwriada gyflawni ei amcanion.
Dywedodd hefyd fod llawer o’r polisiau oedd yn y Rhaglen Lywodraethu yn rhai a yrrwyd ymlaen gan Blaid Cymru yn eu cytundeb un bleidlais gyda’r llywodraeth.
Meddai arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Cawsom ein harwain i gredu fod y llywodraeth Lafur yn datgelu ‘cynllun pum mlynedd i ddwyn Cymru ymlaen’ heddiw, ac o’r herwydd yr oeddwn i wedi gobeithio cael mwy o fanylion am sut y bydd y llywodraeth yn gwneud hynny.
"Ond fel gyda Rhaglenni Llywodraethu blaenorol, cynigiwyd i ni restr hirfaith o amcanion a blaenoriaethau, ond fawr ddim manylion am sut i’w cyrraedd.
“Pwy na fuasai am alluogi pobl Cymru i 'fyw bywydau iach a chyflawn,' iddynt fyw mewn gwlad 'fwy ffyniannus, iach ac unedig' neu adeiladu Cymru sy’n 'fwy hyderus, mwy cyfartal â mwy o sgiliau ac sy’n fwy gwydn?'
"Y cwestiwn yw, ar ôl dwy flynedd ar bymtheg o lywodraethau wedi’u harwain gan Lafur, pam nad ydym ni eto yn ffyniannus, iach, cyfartal na hyd yn oed yn unedig?
“Gellir adnabod yr ychydig fanylion sydd wedi eu cynnwys yn y Rhaglen fel rhai o bolisiau Plaid Cymru y cytunwyd arnynt yn ystod y Compact unwaith–am-byth gyda’r llywodraeth yn dilyn yr etholiad.
"Cronfa gyffuriau a thriniaethau newydd, Banc Datblygu Cymru, Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru, mwy o ofal plant am ddim i blant tair a phedair oed, a mwy o brentisiaethau o safon uchel – materion yw’r rhain oll y cytunasom arnynt fel rhan o’r ‘Compact i Symud Cymru Ymlaen’.
“Tu hwnt i hyn, dyw’r ddogfen yn rhoi fawr ddim manylion i ni am yr hyn y bwriada’r llywodraeth wneud na sut y bwriada wneud yr hyn mae’n ei ddweud eu bod eisiau.
"Nid yw pobl yng Nghymru yn disgwyl i’w llywodraeth ailadrodd yr amryfal heriau maent yn wynebu na disgrifio ein problemau.
"Yr hyn maen nhw’n ddisgwyl gan eu llywodraeth yw arweinyddiaeth ac atebion.
“Rydym eisiau mwy o fanylion. Rydym eisiau gwybod mwy am y ‘sut’, nid yn unig am y ‘beth’.”