Mwy o Newyddion
Drafft Siarter nesaf y BBC: Elan Closs Stephens yn ymateb
WYTHNOS yn ôl cyhoeddodd Llywodraeth y DU Siarter Frenhinol ddrafft nesaf y BBC – sef cyfansoddiad a chylch gorchwyl y Gorfforaeth.
Bu’r drafodaeth gyda Llywodraeth y DU dros y misoedd diwethaf yn hir a chaled ond rwy’n falch tu hwnt iddi fod, yn y pendraw, yn un adeiladol.
Rwy’n arbennig o falch ei bod yn mynd i’r afael â nifer o’r materion ynglŷn â Chymru sydd wedi bod yn ofid dros y blynyddoedd diwethaf a’i bod â phwyslais newydd ar wasanaethau gofynion cynulleidfaoedd Cymreig.
Y materion rheiny yw: yr angen i Gymru gyfoes gael ei phortreadu’n well ar deledu rhwydwaith; pwysigrwydd cadw canolfannau cynhyrchu hynod lwyddiannus y BBC yng Nghymru; gwasanaethu cynulleidfaoedd Cymru’n well trwy gynyddu’r oriau o deledu Saesneg a gynhyrchir yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru; ac wrth gwrs gadw lefel y cyllid a roddir i S4C o ffi drwydded y BBC.
Mae lleisiau lu wedi eu clywed o Gymru yn ystod y trafodaethau, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, a nifer o ymatebion wedi eu derbyn i ymgynghoriadau’r BBC ac Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan.
Braf gweld ymateb cadarnhaol i’r lleisiau hyn yn y Siarter ddrafft.
Dros y degawd diwethaf mae Cyngor Cynulleidfa Cymru’r BBC, sef y corff yng Nghymru sy’n cynghori’r Ymddiriedolaeth, corff llywodraethol y BBC, wedi cynnal cannoedd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb led-led y wlad ac yn sgîl yr hyn a glywyd gan yr aelodau mae wedi bod yn pwysleisio pwysigrwydd portreadu pobl Cymru ar deledu rhwydwaith a lle canolog rhaglenni teledu Saesneg a gynhyrchir yng Nghymru ar gyfer pobl Cymru o ran arlwy’r BBC yng Nghymru.
Yn eu cyfarfod dydd Gwener diwethaf, roedd aelodau’r Cyngor yn falch tu hwnt o weld bod y Siarter drafft newydd yn cynnwys Pwrpas Cyhoeddus cryfach i’r BBC “adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol holl genhedloedd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig”.
Felly hefyd oedd ymateb yr aelodau i’r dyletswydd newydd ar y BBC i sicrhau bod y Gorfforaeth yn “tafoli a bodloni anghenion y cymunedau amrywiol o fewn y Deyrnas Unedig gyfan”, yn cynnwys sicrhau bod “ei allbwn a’i gwasanaethau yn eu cyfanrwydd yn darparu portread cywir a dilys” o bobl Cymru.
Llawn mor bwysig hefyd yw’r ymrwymiad y bydd y targedau ar gyfer cynyrchiadau teledu yn y cenhedloedd datganoledig, sydd wedi ei osod ar hyn o bryd ar 17%, yn parhau.
Mae’n bwysig cofio i’r ymrwymiad hwn gyfrannu dros £59m at economi Cymru y llynedd – ymrwymiad sy’n darparu sylfaen cryf, yn ogystal â gweithlu medrus, ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Roeddwn yn falch tu hwnt hefyd i Ymddiriedolaeth y BBC fedru cyhoeddi wythnos diwethaf bod cyllid S4C o ffi’r drwydded i’w gadw ar yr un lefel tan ddiwedd y cytundeb presennol ar ffi’r drwydded yn 2022.
Mae’r cyhoeddiad hwn wedi ei groesawu gan wleidyddion a chynhyrchwyr annibynnol gan ei fod yn diogelu’r sianel rhag amrywiadau anodd yn ffi’r drwydded ac yn darparu sylfaen sefydlog er mwyn i S4C fedru cynllunio at y dyfodol.
Yn ei llythyr at Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, dywed Rona Fairhead, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC ei bod yn awyddus i’r penderfyniad hwn gael ei wneud gan y BBC, gan mai “dyma’r peth cywir i’w wneud yng ngoleuni swyddogaeth bwysig S4C yn gwasanaethu talwyr ffi’r drwydded Cymraeg eu hiaith yn arbennig, ond hefyd er mwyn darparu sylfaen cryf ar gyfer cyd-weithio yn y blynyddoedd i ddod rhwng Awdurdod S4C a Bwrdd Unedol newydd y BBC”.
Mae setliad cyllido newydd S4C wedi ei gynnwys o fewn y Cytundeb Fframwaith sy’n eistedd ochr yn ochr â Siarter nesaf y BBC.
Ers 2012, pan benderfynwyd y dylai’r rhan fwyaf o gyllid S4C ddod o Ffi’r Drwydded, mae’r berthynas rhwng y ddau ddarlledwr wedi mynd o nerth i nerth a’r nod yn awr yw datblygu’r cydweithio creadigol cryf hwn ymhellach – perthynas sydd wedi arwain, er enghraifft, at gynnwys holl allbwn S4C ar iPlayer y BBC, datblygiad sydd wedi rhoi hwb sylweddol i’r niferoedd sy’n gwylio allbwn S4C ar-lein (i fyny o 5.7m yn 2014-15 i 8.4m yn 2015-16), ac wrth gwrs at y gemau pêl-droed o bencampwriaeth Euro 2016 a roddodd gymaint o fwynhad i ni i gyd dros yr haf.
Mae’r cytundeb cyllidol hwn gydag S4C ar wahân yn llwyr i’r 10 awr yr wythnos statudol o raglenni a ddarperir i S4C gan BBC Cymru – gwasanaeth sy’n cynnwys rhaglenni megis Newyddion S4C a Pobol y Cwm.
Mae partneriaethau â lle hyd yn oed yn fwy canolog yn y Siarter ddrafft newydd ac mae ymrwymiad ynddi i lunio partneriaethau gydag ystod eang o sefydliadau ar draws cenhedloedd y Deyrnas Unedig a fydd yn cefnogi’r economi greadigol yng Nghymru.
Mae yn cynnwys cydnabyddiaeth benodol yn y pwrpasau cyhoeddus mai “trwy gomisiynu a darparu allbwn, y dylai’r BBC fuddsoddi yn economi creadigol pob un o’r cenhedloedd a chyfrannu at eu datblygiad”.
Calondid hefyd yw y bydd Cymru â chynrychiolydd penodol ar Fwrdd Gweithredol newydd y BBC, a bod ymrwymiad hefyd i hybu atebolrwydd a thryloywder y BBC i Gymru fel cenedl.
Ond braf medru nodi hefyd fod Ymddiriedolaeth y BBC – fydd yn dod i ben ei rawd ddechrau mis Ebrill nesaf – wedi ystyried anghenion a dyheadau Cymru wrth negodi’r Siarter Frenhinol.