Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Medi 2016

Plaid Cymru yn datgelu bygythiad canoli i wasanaeth blaengar yn Ysbyty Gwynedd

Er ei fod yn arwain yn fyd-eang mewn gofal traed i gleifion clefyd y siwgr, yn meddu ar rai o raddfeydd isaf y byd mewn torri aelodau’r corff ac yn cael ei hadnabod fel canolfan ragoriaeth yng Nghymru, mae adran fasgiwlar Ysbyty Gwynedd dan fygythiad gan ganoli posib.

Mae Plaid Cymru yn deall bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ystyried symyd unedau fasgiwlar Ysbyty Gwynedd a Wrecsam Maelor i Ysbyty Glan Clwyd, gan adael Bangor a Wrecsam heb eu gwasanaeth fasgiwlar sydd mor uchel ei chlod, a chan beryglu gwasanaethau cysylltiedig eraill sydd yn dibynnu ar gael y timau aml-ddisgyblaeth yma ar un safle.

Dywedodd Sian Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon: “Mae hyn yn fy mhryderu yn fawr iawn.

"Pe byddai’r gwasanaeth fasgiwlar yn symyd o Fangor nid yn unig y byddai hynny’n peryglu iechyd y cleifion fasgiwlar, ond hefyd y cleifion rheiny sydd yn dibynnu ar sgiliau llawfeddyg fasgiwlar.

"Nid gwasanaeth apwyntiadau yw hon bob tro – mae’r staff yma yn gorfod delio efo sefyllfaoedd meddygol sydd yn medru newid yn sydyn iawn, a chyda sefyllfaoedd brys, a tydi cleifion ddim angen y pryder ychwanegol o oedi yn eu triniaeth.”

Nid yn unig mae’r Athro Dean Williams y llawfeddyg fasgiwlar yn gyfrifol am lwyddiant arbennig Ysbyty Gwynedd yn lleihau’r niferoedd o gleifion yng ngogledd Cymru sydd yn gorfod colli darnau o’u corff, yn perfformio amrywiaeth eang o driniaethau gyda chyd-weithwyr arbenigol yn Ysbyty Gwynedd, mae o hefyd yn arbenigo mewn creu a chynnal ffistwla i gleifion arennol.

Triniaeth feddygol fasgiwlar yw ffistwla sydd yn rhoi mynediad i wythiennau, ac mae’n cael ei berfformio’n aml ar gleifion dialysis.

Mae’r ffaith bod y driniaeth hon ar gael yn golygu bod cleifion dialysis gogledd-orllewin Cymru ar eu hennill o fedru cael haemodialysis mwy effeithiol, llai o heintiau yn y clwy, a’r dewis i gael dialysis gartref lle bo’n briodol.

Medd Sian Gwenllian: “Os yw’r gwasanaeth fasgiwlar yn mynd i rywle arall, mi fydd yr arbenigedd cysylltiedig yn mynd hefyd, ac mi fydd hynny yn gwanhau’r gwasanaeth wych sydd ar gael yng ngogledd-orllewin Cymru.

"Dyma engraifft arall o wasanaethau yn symyd yn aradeg tua’r dwyrain, gyda’n hardal ni – sy’n fawr ac yn wledig – yn colli allan.

"Mi fyddai gofyn i gleifion o lefydd fel Amlwch a Phen Llŷn deithio i Glan Clwyd – mae’r peth yn hollol wallgo.

"Mae ganddom ni wasanaeth gyda’r gorau yma yn Ysbyty Gwynedd, pam chwarae efo rhywbeth sy’n gweithio mor dda?”

Mae Dr Mahdi Jibani, Meddyg Ymgynghorol yn Adran Arennol Ysbyty Gwynedd yn pryderu’n fawr am effeithiau ehangach canoli.

Meddai: “Mae hon yn wasanaeth wedi ei hintegreiddio, ac mi fyddai elfennau eraill o’r hyn yr ydym yn ei wneud yma yn cael ei fygwth – Radioleg, Iwroleg a Gastro Enteroleg i enwi ond ychydig.

"Tydw i ddim yn deall beth mae’r Bwrdd Iechyd yn ceisio ei ennill – ai arian yw’r rheswm?

"Maen nhw wastad yn sôn am godi safonnau, ond rydym ni’n adran gyda’r gorau yn y byd.

"Ai’r bobologaeth yw’r broblem – bod na lai ohonom ni yng ngogledd Cymru?

"Mi ddylai gofal iechyd ganolbwyntio ar safonnau, nid ar rifau. Gall ganoli byth weithio mewn ardal wledig fel hon.”

Bu Sian Gwenllian AC mewn cyfarfod gyda Dr. Jibani a chyda Ken Jones, Ysgrifennydd Cymdeithas Cleifion Arennol Gogledd Cymru, ble y buon nhw’n trafod eu pryderon am ddiogelwch cleifion petai canoli yn digwydd.

“Mi siaradais i gyda nifer o gleifion arennol tra ro’n i yn Ysbyty Gwynedd yn ymweld â’r staff,” meddai Sian Gwenllian, “ac roedd hi’n amlwg pa mor lwyddiannus ac effeithiol ydi’r tîm.”

Mae Ken Jones yn gwybod o brofiad pa mor bwysig yw’r gwasanaeth fasgiwlar i gleifion arennol yr ardal.

“Pam newid tîm mor ardderchog?” dywedodd.

“Mae gennym ni gleifion yma sydd yn dringo’r Wyddfa er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth, ac maen nhw ddigon ffit i wneud hynny oherwydd y driniaeth wych maen nhw’n ei dderbyn yma.

"Os caiff y gwasanaeth ei cholli, mi fydd bywydau’n cael eu colli hefyd, does dim dwywaith am hynny.”

Llun: Sian Gwenllian gyda Ken Jones, chwith, a Dr Mahdi Jibani

Rhannu |