Mwy o Newyddion
Adeiladu cam cyntaf cynllun llifogydd Llanelwy ar fin cychwyn
Bydd y gwaith o adeiladu cynllun i amddiffyn mwy na 400 o adeiladau yn Llanelwy rhag llifogydd yn cychwyn ym mis Hydref.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi’r contract ar gyfer adeiladu darn cyntaf y cynllun llifogydd i Dawnus, cwmni o Ogledd Cymru.
Mae rhan gyntaf y gwaith adeiladu’n cynnwys cael gwared â Phont Spring Gardens ac adeiladu pont uwch. Bydd hyn yn galluogi i ddŵr lifo’n rhwyddach, ac felly’n gostwng lefel dŵr llifogydd yn Llanelwy.
Fe fydd ail ran y cynllun yn canolbwyntio ar wella amddiffynfeydd yn y ddinas ac mewn mannau eraill, fydd o fudd i adeiladau a’r ardal ehangach. Disgwylir i hyn ddechrau ym mis Ionawr 2017.
Bydd sesiwn galw heibio’n cael ei chynnal yn Llanelwy ddydd Mercher 5 Hydref (2pm-7pm) er mwyn rhoi cyfle i drigolion yr ardal gael gwybod pryd a sut y bydd y gwaith yn cael ei wneud.
Mae’r sesiwn galw heibio’n dilyn ymgynghoriad gyda thrigolion sy’n berchen ar adeiladau y bydd yr amddiffynfeydd newydd yn effeithio’n uniongyrchol arnynt.
Ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau yn 2017, bydd y cynllun hefyd yn dod â manteision i’r ddinas o safbwynt hamdden, drwy wella llwybrau cerdded a beicio. Bydd hefyd yn rhoi hwb i fioamrywiaeth trwy blannu coed a chlychau’r gog, a gosod bocsys nythu i adar.
Meddai Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Gogledd a Chanolbarth Cymru yn CNC: “Fe fydd y cynllun hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Llanelwy, sef rhai a ddioddefodd lifogydd dinistriol yn 2012 ac sydd wedi byw gyda’r bygythiad llifogydd ers nifer o flynyddoedd.
“Er na allwn atal llifogydd rhag digwydd bob amser, credwn fod gennym gynllun cadarn ar gyfer Llanelwy a fydd yn lleihau’r perygl yn sylweddol ac yn cynnig tawelwch meddwl hirdymor ac effeithiol i drigolion y ddinas. Fe fydd hefyd yn cyfoethogi’r amgylchedd ac yn creu cyfleoedd hamdden newydd yn y ddinas.
“Rydym yn ddiolchgar i drigolion yr ardal am eu cefnogaeth a byddwn yn siŵr o hysbysu pawb ynglŷn â’r gwaith yn ystod pob cam o’r daith.”
Hyd nes bydd y cynllun wedi’i gwblhau, bydd camau tymor byr i leihau’r perygl llifogydd yn parhau ar Afon Elwy. Mae hyn yn cynnwys gosod rhwystrau llifogydd dros dro pan fo angen ar hyd llecyn 150 metr o’r afon.
Mae caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer adnewyddu Pont Spring Gardens. Bydd cais cynllunio ar gyfer yr amddiffynfeydd newydd ac uwch yn cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych ddiwedd mis Medi, gyda’r nod o gychwyn ar y gwaith adeiladu ym mis Ionawr 2017.
Gall pawb sy’n bryderus ynghylch llifogydd weld beth yw eu perygl llifogydd a chanfod a oes gwasanaeth rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim ar gael yn eu hardal trwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188 neu drwy edrych ar http://www.naturalresources.wales/flooding
Ceir mwy o wybodaeth am gynllun rheoli perygl llifogydd Llanelwy ar wefan CNC http://www.naturalresources.wales/llifogydd