Mwy o Newyddion
Mae'n rhaid newid
Mewn araith bwysig i’r Sefydliad Materion Cymreig yng Nghaerdydd yr wythnos yma, soniodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, am yr hyn sydd eisoes wedi’i wneud i gyflawni ei gynllun 20 pwynt i godi safonau a gwella perfformiad ledled Cymru.
Yn ystod yr araith, heriodd y Gweinidog hefyd y 22 awdurdod lleol yng Nghymru i fynd ati i rannu gwasanaethau rhwng nawr a 2012. Mae hwn yn gam uchelgeisiol a radical er mwyn gwella cyrhaeddiad dysgwyr dros y tymor hir.
Meddai: “Rydw i am sicrhau fod y system addysg wedi’i llunio mewn modd a fydd yn gwella cyraeddiadau dysgwyr ledled Cymru, a hynny’n gyson.
“Cefais fy sicrhau gan bob un o’r 22 arweinydd mai addysg oedd eu blaenoriaeth bennaf oll a bod angen ailwampio’r system yn llwyr i fynd i’r afael â’r methiannau. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu’r gryf mai ffurfio partneriaethau rhanbarthol yw’r ateb.
“Cyn belled ag yr wyf i’n y cwestiwn does dim troi’n ôl o’r agenda o weithio’n rhanbarthol. Rwy’n disgwyl i hyn fod ar waith erbyn mis Medi 2012. Gallwn wella pethau dim ond i ni ymrwymo i gydweithio.
“Mae gormod o ysgolion gynradd ac uwchradd yng Nghymru sydd ddim yn perfformio gystal â’r disgwyl. Heblaw’r cymorth y maen nhw eisoes yn ei gael gan eu hawdurdodau lleol, mae angen cymorth arbenigol a her arnyn nhw a hynny ar fyrder.
“Bydd fy Uned Safonau Ysgolion yn mynd ati’n gyflym i roi diwedd ar unrhyw deimlad o hunanfodlonrwydd. Bydd yn onest ac yn gefnogol er mwyn creu perthnasau cryf fydd yn para am amser hir.. Bydd yn creu diwylliant o ddysgu parhaus o’r gwaelod i fyny. Bydd yn cefnogi’n hymdrechion i wella perfformiad ar draws y system gyfan..
“Rydw i eisiau gweld partneriaid yn cydweithio er mwyn wynebu heriau a mynnu gwelliant. Os bydda i’n synhwyro nad yw’r cynnydd yn digwydd yn ddigon cyflym neu, yn waeth na hynny, nad yw pobl yn mynd ati o ddifrif i gydweithio gan obeithio y bydda i’n rhoi llonydd iddyn nhw, yna maen nhw’n twyllo’u hunain.
“Bydda i’n rhoi prawf ar lywodraeth leol i weld a ydyn nhw wedi cadw at eu gair. Bydda i’n gofyn ydy’r safonau addysg wedi gwella? Ydy’r gwasanaethau addysg yn cael eu rhannu? Ydyn nhw’n gyson â’r gwasanaethau eraill? Ydy’r Awdurdodau Lleol yn gost-effeithiol? Ydyn nhw wedi dirprwyo 85% o’r arian i ysgolion? Ydy’r newid yn ddi-droi’n-ôl? Ydy’r cerrig milltir wedi’u bodloni? Ydy’r cynnydd hyd yn hyn yn ddigon?
“Mae codi safonau a gwella perfformiad yn hollbwysig os ydym i roi dyfodol addysgol da i’n pobl ifanc. Rydyn ni’n gwybod yr heriau sy’n ein hwynebu, yn enwedig o ystyried yr amrywiaethau rhwng ysgolion ac yn y lefelau llythrennedd a rhifedd.
“Mae gan athrawon rôl hanfodol yn hyn o beth. Rydyn ni wedi dweud y gall yr athrawon gorau gael effaith arnon ni ar hyd ein hoes ac mae rhai o’n hathrawon yng Nghymru gyda’r gorau yn y byd. Rydyn ni eisiau cefnogi athrawon yn eu gwaith ac ennyn mwy o barch atyn nhw.
“Rwy’n credu fod gan rieni ran bwysig i’w chwarae hefyd, ac rwy’n gobeithio y byddan nhw’n mynnu’r gorau.
“Rhaid i ni fod â diwylliant o ddyheu, diwylliant o ddisgwyl pethau mawr. Er nad ydy newid fyth yn hawdd, mae’n anorfod. Does dim amser i’w golli.”