Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Medi 2016

Marw Wilf Roberts: arlunydd Cymreig nodedig

BU farw yr arlunydd Cymreig nodedig Wilf Roberts yn dawel yn ei gartref Ynys Môn, yn dilyn salwch. Roedd yn 75 mlwydd oed.

Fe’i ganed ym 1941, a’i fagu yn ardal Mynydd Bodafon Ynys Môn.

Yn 1962 symudodd i Croydon lle bu’n dysgu celf ac astudio’n rhan-amser yng Ngholeg Celf Croydon.

Yn 1974 dychwelodd i Fôn i weithio mewn Llywodraeth Leol ac Addysg ac, er iddo beidio arddangos am flynyddoedd lawer, parhaodd i beintio, rhoddi gwaith, darlunio a dylunio posteri ar gyfer elusennau cenedlaethol, hyd nes iddo ymddeol yn 1996 i roi ei amser i beintio.

Roedd ei ddiddordeb mewn peintio ac arlunio bob amser yn rhan annatod o’i fywyd.

Gall un synhwyro’r affinedd oedd ganddo gyda ei amgylchedd yn ei beintiadau; tawelwch a symlrwydd pur o fythynnod llwm carreg a llwyni olewydd heddychlon, neu’r clogwyni geirwon a moroedd tymhestlog.

Yn ddiweddar, bu galw mawr am ei waith yn dilyn nifer o arddangosfeydd a werthodd allan yn Oriel Tegfryn ym Mhorthaethwy ac yn ei oriel yn Llundain, gyda phrisiau uchel wedi eu cofnodi mewn ocsiwn.

Mae’n cael ei ystyried yn un o artistiaid tirlun Cymreig blaenllaw ei genhedlaeth ac mae ei waith yn cael ei ddal mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat yn yr Hague, Paris, Efrog Newydd, Awstralia a’r DU.

Llun: Tan y Castell
(Llun: Oriel Tegfryn)

Rhannu |