Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Medi 2016

Ategu galwadau i gadw Arfon yn rhydd o beilonau newydd

Mae Aelod Seneddol Arfon Hywel Williams a’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian wedi cyfarfod rheolwyr o’r Grid Cenedlaethol er mwyn dwyn perswad arnynt i danddaearu y cyswllt trydan arfaethedig o lannau’r Fenai i Is-Orsaf Pentir yn Arfon.

Yn ystod eu cyfarfod yng Nghaernarfon, anogodd y gwleidyddion lleol i’r Grid Cenedlaethol danddaearu y cysylltiad trydan oddeutu 1 cilomedr o lannau’r Fenai i Pentir, gan ddadlau na fyddai codi peilonau newydd am bellter mor fyr yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl.

Byddai hefyd yn golygu y byddai’r adeilad pen twnnel deuddeg metr o uchder yn cael ei gynnwys yn safle Pentir, sydd wedi ei sgrinio’n dda, yn hytrach na adeiladu strwythr newydd yng nghefn gwlad.   

Mae disgwyl i’r Grid Cenedlaethol gyhoeddi eu hymgynghoriad terfynol ar y llwybr a ffafrir ganddynt ym mis Hydref.

Mae Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AC yn annog etholwyr sydd am leisio eu gwrthwynebiad i ddanfon eu sylwadau i mewn i’r Grid.

Dywedodd Hywel Williams AS: “Roeddwn yn falch fod y Grid Cenedlaethol wedi cytuno i roi eu ceblau newydd o dan y Fenai.

"Roedd hwn yn ymgyrch leol a lwyddodd drwy waith caled y bobl leol, cynghorwyr a'r AC a'r AS.

“Mae'r Grid Cenedlaethol yn ymgynghori cyn bo hir am eu cynigion terfynol, cyn iddynt symud ymlaen i’r cymal nesaf yn y broses gynllunio.

"Nawr mae angen iddynt orffen y gwaith yn iawn a tanddaearu y ceblau o'r Faenol i Bentir.

“Cefais fy annog heddiw gan agwedd cynrychiolwyr y Grid a byddaf yn cymryd camau pellach fy hun yn San Steffan.

"Gwn y bydd pobl leol yn cefnogi tanddaearu pan fyddant yn cael y cyfle i leisio eu barn yn yr ymgynghoriad.

"Gadewch i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i gyflawni'r canlyniad terfynol synhwyrol.”

Ychwanegodd Siân Gwenllian AC: “Ddydd Llun, cyfarfu Hywel Williams AS a minnau gyda'r Grid Cenedlaethol i ategu ein galwad i gadw Arfon yn rhydd o beilonau; barn a rennir gan y rhan fwyaf o drigolion sy'n byw ar hyd y llwybr cyswllt arfaethedig o'r Fenai hyd at Pentir.

“Mae'r opsiynau a ffafrir gan y Grid yn cynnwys dros gilomedr o linellau uwchben, coridor newydd o beilonau a strwythyr uchel 12–15 medr gan ddod a’r ceblau i'r wyneb rhywle yng nghyffiniau Y Faenol.

“Mae yna awydd yn lleol i gadw'r cysylltiad trydan dan ddaear yr holl ffordd o'r Fenai hyd at Bentir. Anogodd Hywel a minnau y Grid i wrando ar farn y cyhoedd yn lleol.

“Mae gwrthwynebiad cyhoeddus eang i beilonau ac rwyf fi, fel llawer o drigolion yn Arfon ,yn bryderus o'r effaith posibl ar bobl lleol, ein heconomi a'r amgylchedd.” 

Rhannu |