Mwy o Newyddion
Prif Weinidog Cymru yn datgelu cynllun pum mlynedd i symud Cymru ymlaen
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi amlinellu cynllun pum mlynedd ei lywodraeth i ddarparu mwy o swyddi o ansawdd gwell, drwy economi gryfach a thecach, gwella a diwygio gwasanaethau cyhoeddus, ac adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.
Dywedodd fod Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen, yn ei gwneud yn glir y bydd y llywodraeth yn canolbwyntio'n ddiflino ar wella’n heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, gan greu Cymru ddiogel sy'n ffynnu, yn iach ac egnïol, yn rhoi bri ar uchelgais a dysgu, ac yn unedig a chysylltiedig.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog hefyd fod prif addewidion Llywodraeth Cymru yn dal er gwaethaf yr ansicrwydd yn sgil pleidlais Brexit, gan gynnwys yr ymrwymiad i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed a datblygu Metro De Cymru.
Dywedodd: "Mae fy ngweledigaeth i ar gyfer y llywodraeth yn syml - galluogi pobl i fyw bywydau iach a chyflawn ac i wneud y mwyaf o bob cyfle, gan eu cefnogi pan fo angen cymorth arnyn nhw fwyaf.
“Mae pum mlynedd eithriadol bwysig o'n blaen. Er bod penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd yn creu tipyn o ansicrwydd ac yn cyflwyno tipyn o heriau, mae ein mandad yn glir.
"Bydd Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio'n ddiflino ar wella’n heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, sydd gyda'i gilydd yn sylfaen i fywydau beunyddiol ein pobl.
“Mae Symud Cymru Ymlaen yn amlinellu'n prif flaenoriaethau ar gyfer cyflawni'r gwelliannau hyn. Maent yn fesurau uchelgeisiol â'r nod o wneud gwahaniaeth i bawb, ar bob cam o'u bywydau.
“Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu Cymru sy'n fwy hyderus, yn fwy cyfartal, yn fwy medrus ac yn fwy cadarn. Fel gwlad rydym eisoes yn cyflawni mwy na'r disgwyl, ac rydym nawr yn barod i wneud mwy.
“Rydw i am weld Cymru ddiogel sy’n ffynnu, Cymru iach ac egnïol, Cymru uchelgeisiol sy’n dysgu, Cymru unedig a chysylltiedig. Dyma'r Gymru yr ydym yn benderfynol o'i hadeiladu dros y pum mlynedd nesaf.”
Ymhlith prif ymrwymiadau Llywodraeth Cymru mae:
Ffyniannus a Diogel:
- Ysgogi mewnfuddsoddi, arloesi a chreu swyddi newydd drwy gynnig mwy o gymorth i fusnesau, gan gynnwys torri treth, sy'n golygu biliau llai i 70,000 o fusnesau a gostwng biliau ardrethi busnes i ddim ar gyfer hanner y cwmnïau cymwys;
- Cael gwared â'r hyn sy'n rhwystro pobl rhag cael gwaith drwy greu'r cynnig gofal plant mwyaf hael unrhyw le yn y DU, gan ddarparu 30 awr yr wythnos o ofal plant rhad ac am ddim i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio, 48 wythnos y flwyddyn;
- Sicrhau ffyniant i bawb drwy greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o safon uchel i bobl o bob oed, ail-lunio cymorth cyflogadwyedd i bobl ddod o hyd i waith ac ailymuno â'r gweithlu, a chyflawni Bargen Dinas-ranbarth Caerdydd, gan ddatblygu bargen debyg i Abertawe a Bargen Twf ar gyfer y Gogledd;
- Darparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol, gan gynnwys 6,000 o gartrefi drwy'r cynllun Cymorth i Brynu;
- Cymunedau gwledig llwyddiannus, cynaliadwy: Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau dyfodol llewyrchus i amaethyddiaeth Cymru;
- Yr Amgylchedd: Symud ymlaen tuag at ein nod o weld gostyngiad o 80% o leiaf yn ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050, buddsoddi yn y sgiliau angenrheidiol ar gyfer yr economi werdd, hyrwyddo twf gwyrdd ac arloesi, a pharhau i fuddsoddi mewn gwaith amddiffyn rhag llifogydd a chymryd camau pellach i reoli dŵr yn well yn ein hamgylchedd.
Iach ac Egnïol:
- Gwella ein gwasanaethau gofal iechyd: parhau i wella mynediad at feddygfeydd, gan ei gwneud yn haws cael apwyntiad, yn ogystal â chynyddu buddsoddiad mewn cyfleusterau i leihau amseroedd aros a manteisio ar dechnoleg ddigidol i helpu i gyflymu diagnosis.
- Cyflwyno cronfa triniaethau newydd er mwyn i bobl Cymru fedru cael mynediad cyflym at driniaethau newydd ac arloesol, a rhoi terfyn ar y loteri cod post am gyffuriau a thriniaethau nad ydynt ar gael yn gyffredinol drwy'r GIG;
- Buddsoddi yn ein staff gofal iechyd drwy weithredu i ddenu a hyfforddi mwy o feddygon teulu, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ar draws Cymru a sicrhau mwy o nyrsys, mewn mwy o leoliadau, drwy gyfraith lefelau staffio nyrsys estynedig.
- Rhoi blaenoriaeth i driniaeth a chymorth iechyd meddwl, atal a lleddfu salwch meddwl, a chynyddu mynediad at therapïau siarad.
- Gofal a phobl hŷn: Mwy na dyblu'r cyfalaf y gall pobl ei gadw wrth ddechrau cael gofal preswyl i £50,000.
Uchelgais a Dysgu:
- Buddsoddi £100 miliwn ychwanegol i wella safonau ysgolion dros y tymor nesaf, parhau i ddatblygu cwricwlwm newydd a buddsoddi bron £2 biliwn erbyn 2024 mewn ailwampio ysgolion, adeiladau ysgolion newydd, adeiladau ysgolion cymunedol ac adeiladau colegau;
- Archwilio ffyrdd o sicrhau bod plant mewn gofal yn mwynhau’r un cyfleoedd mewn bywyd â phlant eraill, a diwygio’r ffordd y gofelir amdanynt os oes angen;
- Addysg bellach ac uwch: Cynnig pecyn o gymorth i fyfyrwyr sy'n well na'r hyn a gynigir yn Lloegr, yn seiliedig ar argymhellion Adolygiad Diamond.
Unedig a Chysylltiedig:
- Trafnidiaeth: Darparu ffordd liniaru ar gyfer yr M4 yn y De-ddwyrain, ynghyd â gwelliannau i’r A55 yn y Gogledd, yr A40 yn y Gorllewin a chefnffyrdd eraill; creu Metro De Cymru a bwrw ymlaen i ddatblygu Metro Gogledd Cymru; a datblygu masnachfraint rheilffyrdd newydd, dielw o 2018, a darparu rhwydwaith mwy effeithiol o wasanaethau bws, unwaith y bydd y pwerau wedi’u datganoli;
- Sicrhau cymdeithas decach drwy ddiddymu adrannau o ddeddfwriaeth Undebau Llafur Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig a chymryd camau pellach o ran y cyflog byw, cyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau a mynd i'r afael ag arferion gwael a thwyllodrus eraill;
- Dod â phobl ynghyd yn ddigidol drwy gynnig band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru;
- Gweithio gyda llywodraeth leol i adolygu’r dreth gyngor i’w gwneud yn decach fel bod pobl ag eiddo sydd o werth isel neu gymedrol yn talu llai nag y maent yn ei dalu yn awr, a darparu cyllid i roi 'llawr' ar gyfer setliadau llywodraeth leol;
- Parhau i fuddsoddi i annog mwy o bobl i siarad a defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau beunyddiol a gweithio tuag at sicrhau un miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.