Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Medi 2016

Elusen yn galw am gamau brys i atal bwlio hiliol mewn ysgolion

Mae Dangos Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru, elusen gwrth-hiliaeth sydd wedi cyflwyno gweithdai i dros 100,000 o bobl ifanc yn y 10 mlynedd diwethaf, yn galw ar weithredu brys i atal y llanw cynyddol o agweddau hiliol ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.

Gan fod yr elusen yn agosáu at ei 10fed pen-blwydd yng Nghymru, mae'n galw ar y sector Addysg i ddyblu ei hymdrechion ac am fwy o atebolrwydd i amddiffyn pobl ifanc.

Cymaint yw pryder yr elusen, penderfynwyd cynnal ymgynghoriadau â phobl ifanc ac athrawon yn ystod y misoedd diwethaf gyda'r canlyniadau'n cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru.

Dros y 12 mis diwethaf, mae  athrawon yng Nghymru wedi clywed y sylwadau canlynol (pan ofynnwyd a oeddent wedi dod ar draws bwlio hiliol):

“Clywodd plentyn Pwyleg nad oedd croeso yma ac y dylent fynd yn ôl i ble maent yn dod o."

"Yn dilyn y bleidlais Brexit, gofynnwyd i ddisgybl Bangladeshi os yw ef wedi cael VISA a dywedwyd wrtho yr oedd yn ISIS."

"Disgybl yn gwneud jôc hiliol, na anelwyd at unrhyw un, ond roedd yn sioc  i bawb o gwmpas"

"Defnydd aml o'r term 'pikey' ymhlith y disgyblion. Gwawd achlysurol treftadaeth / diwylliant Tseiniaidd."

"Rhieni o deulu gwyn Prydeinig wedi dweud wrth eu merch i ddweud wrth blentyn du Prydeinig yn ystod amser egwyl 'i fynd yn ôl i'w gwlad eu hunain'."

Amlygodd yr ymgynghoriad diffyg hyder, hyfforddiant a chefnogaeth ymhlith athrawon.

Nid oeddent yn teimlo eu bod wedi cael hyfforddiant digonol neu’n hyderus wrth gwblhau adroddiadau ar ddigwyddiadau gwahaniaethu hiliol i Uwch Staff a'r Awdurdod Lleol.

Dywedodd un athro: "Mae’r broblem yn wleidyddol - yn uwch i fyny'r gadwyn awdurdod i chi'n mynd y llai o bobl / rolau sydd eisiau materion o'r fath gael eu cofnodi.

"Rwyf wedi clywed ‘a ydych yn sicr eich bod am ei gofnodi hyn fel digwyddiad hiliol' llawer gormod o weithiau, mae'r diwylliant angen ei newid yn uwch i fyny."

Tynnodd athro arall sylw at ddiffyg pwysigrwydd a roddir ar fwlio hiliol gan Awdurdodau Lleol.

Maes arall o bryder i’r elusen yw’r rhagfarn gwrth-Foslemaidd a ddangosir gan bobl ifanc a'r ofn am eu diogelwch eu hunain.

"Bombers", "terrorists" a’r "Taliban" oedd ymadroddion a gafodd eu hailadrodd trwy gydol yr ymgynghoriad, yn ogystal â bygythiadau mwy cyfoes fel "ISIS" ac "Ebola".

Mae rhai o'r bobl ifanc wedi labelu mewnfudwyr fel "pobl sy'n achosi terfysgoedd", "tresmaswyr", "smyglwyr" a "phobl sy'n ceisio’n brifo ni."

Yn y misoedd diwethaf, mae'r elusen wedi derbyn cynnydd yn y nifer o ysgolion annibynnol sydd wedi cysylltu i gael cymorth, o'r rhain roedd 70% yn ganlyniad i ysgolion yn adrodd am ddigwyddiad hiliol.

Dywedodd Sunil Patel, Rheolwr Ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru: "Mae'n destun pryder mawr fod cwynion casineb hiliol wedi cynyddu'n sylweddol ers canlyniad y refferendwm UE, mae hiliaeth wedi bod ar y cynnydd ar draws Cymru hyd yn oed cyn y bleidlais a'r adroddiadau negyddol cyson o fudwyr wedi ysgogi'r drwgdeimlad.

"Rydym wedi sylwi ar safbwyntiau gwrth-mewnfudo a fynegwyd gan ddisgyblion mewn ysgolion o mor ifanc ag wyth oed ac yn ein swyddfa mae athrawon wedi cysylltu i ddweud nad ydynt yn hyderus wrth fynd i'r afael gydag achosion hiliol sy'n digwydd ar sail fwy aml.

"Rydym yn hynod bryderus ac yn galw am gamau brys i gefnogi ac amddiffyn pobl ifanc yng Nghymru."

Yn gynwysedig yn yr ymgynghoriad oedd arolwg a gynhaliwyd gyda 435 o athrawon a oedd yn amlygu bod 1 o bob 4 o athrawon wedi dod ar draws digwyddiad hiliol yn eu hysgol yn y 12 mis diwethaf, ac nid dim ond y plant sydd wedi dioddef.

Dywedodd un athro o Sir Fynwy fod disgybl wedi gwneud sylwadau i aelod Mwslimaidd o staff am liw croen ac mae’r elusen hefyd wedi derbyn gwybodaeth ynghylch digwyddiadau hiliol eraill wedi'u hanelu at staff yn yr ysgolion.

Roedd cytundeb aruthrol y dylai addysg gwrth-hiliaeth gael ei integreiddio i mewn i'r cwricwlwm gyda 90% o'r athrawon yn credu yn gryf mae dyma yw’r ffordd ymlaen.

Dywedodd Stuart Williams, Prif Swyddog yr NUT a Chadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru: "Cyfrifoldeb pawb yn ein cymunedau yw mynd i’r afael â hiliaeth, tu fewn i gatiau'r ysgol a thu allan.

"Fel yr undeb mwyaf ar gyfer athrawon yng Nghymru, rydym yn hynod falch o'r gwaith rydym yn ei wneud ochr yn ochr gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth o ran codi ymwybyddiaeth o'r materion hyn ac i helpu i addysgu plant.

"Yr hyn sy'n glir o'r arolwg hwn, ac ystadegau diweddar, yw bod y gwaith hwn mor bwysig yn awr ag y bu erioed.

"Mae aelodau'r NUT erioed wedi credu’n angerddol bod addysg yn ymwneud â datblygu unigolion cymdeithasol cyfrifol yn ogystal â chyrhaeddiad academaidd.

"Mae sicrhau bod ymdeimlad o oddefgarwch a pharch yn rhan hanfodol o’r ffocws hwnnw."

Mae'r elusen yn credu nad yw mynd i'r afael â'r materion hyn yn flaenoriaeth ar gyfer rhai awdurdodau lleol ac nid oes digon yn cael ei wneud i herio'r materion ac agweddau hyn drwy'r system addysg bresennol ac maent yn galw am weithredu brys gan Lywodraeth Cymru i gefnogi pobl ifanc ac athrawon yng Nghymru.

Rhannu |