Mwy o Newyddion
Toriadau cymorth cyfreithiol
Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan a’r llefarydd ar gyfiawnder Elfyn Llwyd AS wedi rhybuddio fod diwygiadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i’r gyllideb cymorth cyfreithiol mewn perygl o danseilio holl syniad system cyfiawnder troseddol ‘deg’.
Rhybuddiodd Mr Llwyd, oherwydd y toriadau hyn, y bydd achosion ategol megis cynnal a chystodaeth plant, yn cael eu trin yn iawn, ac y bydd cleientiaid bregus megis y rhai â phroblemau iechyd meddwl yn awr yn cael trafferth i gael cyngor cyfreithiol am ddim.
Mae'n condemnio llywodraeth y DG am fethu â chydnabod, trwy roi achosion trais yn y cartref ar wahân, na chaiff mathau eraill o gam-drin eu trin yr un mor ddifrifol.
Mae llywodraeth y DG yn bwriadu torri tua £450miliwn y flwyddyn i’r gyllideb Cymorth Cyfreithiol.
Roedd Mr Llwyd yn siarad ar Ail Ddarlleniad Mesur Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr yn Nhŷ’r Cyffredin.
Dywedodd Mr Llwyd: “Mae’n arwyddocaol fod dros 90% o’r sawl a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn anghytuno â’r cynigion i symud achosion allan o gwmpas cymorth cyfreithiol.
“Rydym mewn perygl o greu marchnad i gymorth cyfreithiol wedi ei gyrru gan gost yn hytrach nac anghenion y cleientiaid.
“Bydd y cleientiaid mwyaf bregus, gan gynnwys y rhai â phroblemau iechyd meddwl ac anableddau eraill, yn ei chael yn amhosibl i gael cyngor cyfreithiol am ddim - am y bydd eu hachosion yn rhy gymhleth i gwmnïau eu cymryd.
“Ni fydd materion ategol megis cystodaeth a chynnal plant yn cael eu trin yn synhwyrol, ac y mae’n anodd gor-bwysleisio’r effaith gaiff hyn ar blant sydd yng nghanol anghydfod ‘blêr’.
“Mae llywodraeth y DG wedi dweud y dylai cymorth cyfreithiol fod ar gael i ddioddefwyr trais yn y cartref - ond y mae pryderon am ganolbwyntio gormod ar drais yn y cartref yn unig. Mae cam-drin yn ehangach o lawer a gall yn aml fod yn seicolegol, yn ariannol yn aml ac yn emosiynol. Nid yw ateb yr-un-peth-i-bawb yn gweithio o gwbl gyda chymhlethdodau ein system cyfiawnder.
“Mae angen i lywodraeth y DG gydnabod fod gan ein system gyfiawnder nid yn unig ddyletswydd i amddiffyn ei dinasyddion – dylai eu cynnal hefyd. Rhaid i ni eu hamddiffyn rhag loes diangen, problemau ariannol a thrawma, sydd oll yn deillio o achosion llys gor-gymhleth.
“Dylai pawb hefyd allu bod â hyder yn eu system gyfreithiol a bod yn sicr na fyddant dan anfantais oherwydd yr arian y gallant gyfrannu at gostau cyfreithiol.
“Mae’r toriadau nid yn unig yn tanseilio’r diwygiadau mae’r llywodraeth yn hyrwyddo – o gael eu gweithredu, buasent yn tanseilio’r union egwyddorion sy’n sail i’r system gyfiawnder.”