Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Medi 2016

Gwasg Y Lolfa yn croesawu tri aelod o staff newydd

Mae gwasg Y Lolfa yn croesawu tri aelod newydd o staff y mis hwn.

Penodwyd Gwenllian Jones fel rheolwr swyddfa, Carolyn Hodges fel golygydd Saesneg a Robat Trefor fel golygydd copi Cymraeg.

Daw Gwenllian Jones o Aberaeron ac fe raddiodd hi o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Astudiaethau Amgueddfa ac Oriel a Hanes. Bu’n gweithio i Avanti yng Nghaerdydd cyn symud yn ôl i Geredigion.

"Rwy’n hapus i gael bod nôl yng Ngheredigion ac yn edrych ymlaen at yr her o weithio i gwmni mor brysur ac amrywiol," meddai Gwenllian.

Golygydd copi Cymraeg newydd y wasg fydd Robat Trefor o Ynys Môn.

Bu’n olygydd, tiwtor a chyfiethydd yn ei dro ac fe ddechreuodd arni’n gweithio am gyfnod o bum mlynedd ar Eiriadur yr Academi.

Mae ganddo brofiad o weithio yn y byd cyhoeddi a’r byd gwleidyddol fel ei gilydd.

Yn ogystal â chael ei benodi i’r Lolfa fel golygydd copi mae hefyd yn dysgu yn rhan amser yn Ysgol y Gymraeg ym mhrifysgol Bangor.

"Byddaf yn gweithio yn Y Lolfa fel golygydd copi sydd yn dipyn o gyfrifoldeb ond rwy’n falch iawn o gael dod yn ôl at fyd y llyfrau ac ymuno â’r tîm," meddai.

Ymhlith y penodiadau newydd bydd swydd newydd sbon hefyd, sef golygydd Saesneg, fydd yn cael ei chyflawni gan Carolyn Hodges.

Daw Carolyn o Buckingham yn Lloegr yn wreiddiol ac fe astudiodd ffilm yn y brifysgol cyn dod yn athrawes Saesneg yn dysgu yn Llundain a dramor yn Rhufain.

Dechreuodd ar ei gyrfa golygyddol yng ngwasg prifysgol Rhydychen ble bu am 14 mlynedd.

"Mi ddysgais Gymraeg fy hun drwy ddefnyddio Say Something in Welsh a breuddwydio am ddod i fyw yma yng Nghymru a chael siarad yr iaith pob dydd," meddai Carolyn, "felly dwi’n teimlo’n lwcus iawn i gael y cyfle yma."

Meddai rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Garmon Gruffudd: ‘Mae’n bleser mawr croesawu Gwenllian, Robat a Carolyn i gwmni gwasg Y Lolfa.

"Mae’r tri yn brofiadol iawn ac yn gaffaeliad mawr i’r cwmni wrth i’r Lolfa barhau i hyrwyddo a hybu llyfrau beiddgar a blaengar yn y Gymraeg a’r Saesneg."

Bydd Y Lolfa yn dathlu hanner canmlwyddiant sefydlu’r wasg flwyddyn nesaf.

Rhannu |