Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Medi 2016

Sian Lloyd yn datgelu blynyddoedd o bryder o gael ei stelcio

Mae’r cyflwynydd teledu Sian Lloyd wedi siarad yn agored am y tro cyntaf am ei phrofiad dirdynnol yn delio gyda stelciwr dirgel.

Mewn cyfweliad ecscliwsif gyda rhaglen materion cyfoes S4C, Y Byd ar Bedwar, datgelodd y cyflwynydd 58 mlwydd oed nad yw hi bellach yn teimlo’n gyfforddus ar ei phen ei hun yn ei chartre’ ei hun, ar ôl digwyddiad y llynedd.

"Yn anffodus rwy’n meddwl bod e wedi newid fy mywyd yn llwyr," meddai Sian Lloyd. "Roeddwn i arfer bod yn rhywun hyper hyderus nad oedd yn becso am bethe ac yn mynd o un peth i’r llall a byth yn edrych dros fy ysgwydd. Nawr rwy'n edrych dros fy ysgwydd yn feddyliol ac yn gorfforol drwy’r amser."

Datgelodd y cyflwynydd tywydd ei bod wedi arfer â bod yn destun sylw dwys yn ystod ei gyrfa deledu hir a disglair. Fodd bynnag mae un profiad penodol wedi gadael ei ôl arni, gan fod un stelciwr wedi ei thargedu hi yn ei chartre’ ei hun.

Roedd y stelciwr yn bresennol mewn digwyddiad lle'r oedd Sian Lloyd wedi bod yn cyflwyno gwobrau. Ar ôl dychwelyd i'w chartref yng nghanolbarth Cymru, cafodd ei synnu gan yr hyn oedd yn ei disgwyl hi.

"Roeddwn wedi gyrru lan o Lundain gyda ngŵr, a phan gyrhaeddon ni gartre’ ac agor y drws roedd llwyth o lythyrau yn ein disgwyl ni, ac un llythyr wedi'i ysgrifennu â llaw.

"Agorais i’r llythyr ac fe gwympodd ffotograff mas o’r amlen, roedd e’n ffiaidd, yn dangos rhan o gorff dyn wedi ei gyffroi’n rhywiol. Allai’r llun close up ddim wedi gallu dangos mwy.

"Roedd y llythyr yn dweud ‘this is for you and there’s plenty more where that came from’ ac roedd hyd yn oed wedi gadael ei rif ffôn."

Er gwaetha’r ffaith iddo adael rhif ffôn, ni lwyddodd yr heddlu i gael hyd i’r stelciwr.

Dywed Sian Lloyd bod y digwyddiad wedi gadael ei hôl arni hi ac wedi ei gwneud yn nerfus ac yn amheus o bobl pan mae’n mynd allan.

Mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers i ddeddfau yn erbyn stelcio gael eu cyflwyno yng Nghymru a Lloegr.

Dros y flwyddyn ddiwethaf (2015/16) mae mwy na 1,000 o achosion o erlyn wedi cael eu cynnal yn gysylltiedig â stelcio honedig yng Nghymru a Lloegr, o'u cymharu â 12,000 am y drosedd o aflonyddu.

Awgrymodd arolwg gan YouGov ym mis Ebrill bod y risg o gael eich stelcio ar-lein yn cynyddu ar draws y DU.

Y ffurf fwyaf cyffredin ar stelcio yw stelcio gan bartner neu gynbartner ar ôl i berthynas ddod i ben, ond mae 10 y cant o achosion o stelcio yn ymwneud â stelcwyr sydd ddim ag unrhyw gysylltiad blaenorol gyda'r dioddefwr.

Dyna sydd wedi digwydd i Sian Lloyd ac mae hi'n dweud bod ei phrofiadau o gael ei stelcio wedi newid ei bywyd am byth.

"Rwy’n grac iawn bod rhywun wedi amharu ar fy mywyd i fel hyn.

"Fe allech chi ddweud ei fod wedi gwneud ffafr â mi gan fy mod nawr yn gwbl effro i bethe ac yn barod i ymateb os rwy’n teimlo bod rhywbeth o’i le.

"Efallai fy mod yn swnio fel scaredy cat neu’n paranoid ond mae’n well bod yn barod am unrhyw bosibilrwydd er mwyn osgoi canlyniad trasediol."

I weld y cyfweliad llawn, gwyliwch Y Byd ar Bedwar nos Fawrth am 9.30pm ar S4C.

Rhannu |