Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Medi 2016

Clywed y ddwy ochr i’r ddadl am gerrig gleision Preseli

A gafodd y cerrig gleision eu cloddio gan bobl yn y Preseli, neu a gawsant eu symud gan rymoedd natur?

Bydd dwy sgwrs a roddir ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys yn eich galluogi i glywed y ddwy ochr i'r ddadl hon ac i ddod i benderfyniad drosoch eich hun.

Bydd y Daearyddwr Dr Brian John a’r Archeolegydd Dr Mike Parker Pearson yn cyflwyno dwy sgwrs ar wahân yn yr atyniad sy’n cael ei redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac sydd rai milltiroedd yn unig o leoliadau fel Craig Rhosyfelin, sef tarddiad o leiaf un o'r cerrig gleision yng Nghôr y Cewri.

Dywedodd Jenn Jones, rheolwr Castell Henllys: "Bydd y ddwy noswaith yn rhoi cip rhyfeddol ar y ddadl barhaus hon, a byddant yn gymorth inni ddeall mwy am y cerrig enwog hyn, sy’n hanu o dirwedd y Parc Cenedlaethol.

"Bydd y digwyddiadau’n gyfle i glywed dwy farn wahanol ar y drafodaeth am y cerrig gleision gan arbenigwyr o ddau faes gwahanol.

"Bydd barbeciw ar gael cyn y ddwy sgwrs felly archebwch le ymlaen lle fel na chewch eich siomi.”

Bydd Dr Brian John yn cyflwyno The Myth of the Preseli Bluestone Quarries nos Fercher 21 Medi am 7.30pm. Mynediad yn £3.50. Bydd barbeciw ar gael o 5.30 ymlaen am £3.50 cyn y digwyddiad. Rhaid archebu lle yn y sgwrs a’r barbeciw.

Yna, nos Iau 22 Medi am 7.30pm, bydd Dr Mike Parker Pearson yn cyflwyno noson ar hanes y cloddio yng Nghraig Rhosyfelin gyda’i sgwrs Stonehenge and the Preselis. Mynediad yn £3. Bydd barbeciw ar gael o 5.30pm ymlaen am £3.50. Rhaid archebu lle yn y sgwrs a’r barbeciw.

Ffoniwch 01239 891319 i gadw lle. I gael rhagor o wybodaeth am Gastell Henllys ewch i http://www.castellhenllys.com

Rhannu |