Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Medi 2016

BBC Cymru i lansio gorsaf radio dros dro am y tro cyntaf

Gyda BBC Radio Cymru Mwy yn lansio ar y tonfeddi digidol heddiw, mae’n nodi carreg filltir nodedig yn hanes BBC Cymru - yr orsaf dros dro cyntaf yn ei hanes.

Yn gynllun peilot dan ofal Radio Cymru, mae’r orsaf dros dro yn rhan o gyfres o ddatblygiadau digidol gan y gwasanaeth cenedlaethol ar drothwy ei phen-blwydd yn ddeugain oed.

Dros gyfnod o bymtheg wythnos bydd y pwyslais ar fwy o gerddoriaeth a hwyl gyda BBC Radio Cymru Mwy yn darlledu yn ystod bore’r wythnos waith.

Daw’r peilot i ben ar 2 o Ionawr 2017, ddeugain mlynedd union i noswyl lansio BBC Radio Cymru ar yr 3 Ionawr 1977.

Sioe frecwast lawn cerddoriaeth fydd am 7 y bore, gyda BBC Radio Cymru yn cynnig dewis o raglenni boreol am y tro cyntaf erioed, gyda’r rhaglen newyddion ddyddiol, Post Cyntaf a Rhaglen Aled Hughes yn parhau ar BBC Radio Cymru.

Bydd rhaglenni yr orsaf dros dro yn parhau tan o leia’ hanner dydd, gyda’r bwriad i arbrofi o bryd i’w gilydd gyda darllediadau dros ginio.

Dywed Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: “Os mai cerddoriaeth cwmni a chwerthin yw’ch dewis chi yn y bore, dyna fydd swn Radio Cymru Mwy.

"Ac mae gallu cynnig y dewis holl bwysig i Gymry Cymraeg bob bore yn hynod o gynhyrfus.

“Mae’n rhaid cofio mai arbrawf yw hwn fydd yn rhoi cyfle i ni asesu be’ sy’n bosibl dros gyfnod penodol.

"Mae hi’n gyfnod o newid mawr ym myd darlledu ac mae’n bwysig ein bod ni’n ymchwilio sawl trywydd wrth geisio sicrhau ein bod ni’n ateb galw’r gwrandawyr.”

Brenhines canu pop Cymraeg, Caryl Parry Jones fydd llais cyntaf yr orsaf y bore ’ma, wrth iddi gyflwyno’r Sioe Frecwast.

Bydd cyflwynwyr poblogaidd fel Ifan Evans, Huw Stephens a Dylan Ebenezer yn dilyn dros y pymtheg wythnos nesaf.

O 10am tan 12pm, bydd cyfle i wrando ar leisiau newydd a chyfarwydd; y digrifwr Steffan Alun o Abertawe, y DJ o Gaerdydd Elan Evans a Gwennan Mair o Lan Ffestiniog.

Ar gael drwy Gymru gyfan, bydd modd gwrando ar Radio Cymru Mwy ar wefan Radio Cymru Mwy, ar yr ap BBC iPlayer Radio drws nesa i Radio Cymru ac fel dewis arall ar radio digidol DAB yn y de ddwyrain.

Bydd amserlen Radio Cymru yn aros fel ag y mae ar FM ac ar DAB drwy Gymru.

Mae manylion pellach i’w cael ar http://bbc.co.uk/radiocymrumwy ac wrth chwilio am radiocymrumwy ar Facebook a Twitter. Mi fydd modd cynnig adborth drwy gysylltu gyda dweudmwy@bbc.co.uk

Llun: Betsan Powys

Rhannu |