Mwy o Newyddion
Rôl newydd i actor ifanc
MAE actor brwd wedi mabwysiadu rôl wirfoddol gyda Heddlu Gogledd Cymru. Mae Gruffydd Owen o Fôn sy’n 18 oed ac sy’n actio’r cymeriad Gareth ‘Sbecs’ yn yr opera sebon Rownd a Rownd ar S4C wedi ymuno â’r Heddlu fel Swyddog Gwirfoddol.
Ymunodd Gruffydd, sy’n gyn-ddisgybl Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch, â Heddlu Gogledd Cymru yn Hydref 2010 ac mae o wedi bod ar y bît ers mis Rhagfyr.
“Byddaf yn astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd y flwyddyn nesaf a phenderfynais ymuno â’r Heddlu Gwirfoddol er mwyn cael blas o’r hyn y gallai’r Heddlu ei gynnig,” meddai Gruffydd. “Dwi wrth fy modd efo’r rôl – yn enwedig y sifftiau hwyr.
“Ar ôl cwblhau fy arholiadau Safon Uwch y llynedd, penderfynais gymryd blwyddyn allan er mwyn ariannu fy ngradd drwy barhau i weithio ar Rownd a Rownd. Dwi’n gweithio ar Rownd a Rownd tua dau ddiwrnod yr wythnos sy’n golygu bod gen i ddigon o amser sbâr, ac yn gallu gweithio sifft neu ddwy yr wythnos.”
Mae Gruffydd, sydd wedi gweithio ar Rownd a Rownd ers chwe mlynedd yn gweithio ei sifftiau yn Llangefni a Chaergybi ar hyn o bryd, er ei fod yn gweithio mewn rhannau eraill o’r ynys hefyd.
“Mi wnes i weithio Nos Galan, roedd hi’n brysur iawn ac fe wnes i arestio un neu ddau o bobl. Roeddwn i fod i orffen gweithio am 3am ond roedd y gwaith yn dal i ddod i mewn felly roeddwn yn gweithio tan 7:30am, cariodd yr adrenalin fi trwodd tan y diwedd.”
Ychwanegodd: “Dwi wedi gwneud ffrindiau da a dwi dal mewn cysylltiad â’r rhai hynny a ymunodd â mi ar y dechrau – byddwn yn cwrdd yn rheolaidd.
“Os ydych yn ystyried ymuno fel Swyddog Heddlu Gwirfoddol, byddwn yn argymell yn gryf i chi wneud hynny. Mae’n deimlad braf gallu helpu pobl a gwella eu bywydau drwy ddelio â phroblemau yn eu cymunedau.”
Mae’r Heddlu Gwirfoddol yn cynnwys swyddogion gwirfoddol sy’n rhoi eu hamser am ddim er mwyn cynorthwyo’r broses o blismona Heddlu Gogledd Cymru.
Fel Swyddog Gwirfoddol byddwch yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion arferol a bydd disgwyl i chi ymrwymo i allu gweithio pedair awr yr wythnos. Mae gweithio fel Swyddog Gwirfoddol yn ffordd dda o roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned, datblygu sgiliau newydd neu ddysgu sut beth yw gwaith plismona go iawn. Fel Swyddog Gwirfoddol byddwch yn cael hyfforddiant a lifrai a bydd gennych yr un pwerau ac awdurdod â swyddogion arferol.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth am sut i ymuno â’r Heddlu gwirfoddol, cysylltwch â’r Adran recriwtio drwy ffonio 01492 804699, gallwch anfon neges e-bost at recruitment@north-wales.police.uk’neu ewch i wefan Heddlu Gogledd Cymru: www.heddlu-gogledd-cymru.police.uk