Mwy o Newyddion
Galw am groesfan ddiogel i ddefnyddwyr Lôn Eifion ar ffordd osgoi newydd
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams wedi rhoi ei gefnogaeth i ymgyrchwyr lleol sy’n feirniadol o Lywodraeth Cymru am eu diffyg gweithredu i sicrhau darpariaeth ddiogel i feicwyr a cherddwyr a fydd yn croesi ffordd osgoi newydd Caernarfon.
Pan gyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer y ffordd osgoi yn 2015, fe wnaed galwadau i Lywodraeth Cymru gynnwys croesfan ddiogel ar gyfer beicwyr a cherddwyr ger cylchfan Y Goat Llanwnda.
Ond flwyddyn yn ddiweddarach a heb unrhyw sicrwydd gan Lywodraeth Cymru, mae pryderon wedi eu lleisio am ddiogelwch defnyddwyr Lôn Eifion sy’n wynebu croesi dwy ffordd brysur pan fydd y ffordd osgoi wedi ei chwblhau.
Mae ymgyrchwyr nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pendant i sicrhau nad yw cylchfan Y Goat yn Llanwnda yn dod yn broblem diogelwch difrifol i feicwyr, cerddwyr a theuluoedd sy’n defnyddio’r llwybr di-draffig poblogaidd yn rheolaidd.
Dywedodd Hywel Williams AS: “Rwy’n falch ein bod wedi cael cadarnhad fod gwaith ar ffordd osgoi Bontnewydd-Caernarfon yn cychwyn flwyddyn nesaf.
“Ond rwy’n siomedig ac wedi fy synnu fod y mater o ddarparu croesfan ddiogel ar gyfer defnyddwyr Lôn Eifion yn parhau heb ei ddatrys.
“Tra bod darpariaethau wedi'u gwneud ar gyfer dyfrgwn ac ystlumod, mae'n rhyfeddol nad oes ystyriaeth wedi ei roi i ddiogelwch beicwyr a cherddwyr sydd bellach yn wynebu croesi dwy ffordd brysur i gael mynediad i lwybr hynod boblogaidd Lôn Eifion."
Ychwanegodd Siân Gwenllian AC: “Rwy'n siomedig iawn nad oes dim cydnabyddiaeth wedi ei wneud i anghenion cerddwyr a beicwyr sy'n dymuno croesi'r ffordd osgoi newydd ar gylchfan y Goat ac ymuno â Lôn Eifion, er gwaethaf y pryderon a godwyd yn yr ymgynghoriad diwethaf.
“Mae hyn yn hynod o annoeth ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddod ag atebion ymarferol ymlaen cyn gynted ag y bo modd i fynd i'r afael â'r broblem, megis pont i gerddwyr a phont feicio neu fesurau amgen addas i groesi dwy gefnffordd brysur.”