Mwy o Newyddion
BBC Cymru yn cyhoeddi targed o £9m a arbedion dros y pum mlynedd nesaf
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi adrefnu sylweddol fydd yn dod â chomisiynu ar gyfer teledu, radio ac arlein at ei gilydd am tro cyntaf erioed.
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies wrth staff fod yn rhaid i’r sefydliad wneud arbedion o £9m y flwyddyn erbyn 2022 er mwyn byw o fewn cytundeb ffi’r drwydded – targed o 2% o arbedion y flwyddyn – er bod disgwyl cadarnhad o fuddsoddiad newydd yn ddiweddarach eleni.
Mae disgwyl i’r newidiadau i’r system gomisiynu weld BBC Cymru yn cyflymu datblygiad ei gynnwys digidol ac estyn allan at bobl ifanc.
Caiff Pennaeth Comisiynu newydd ei apwyntio hefyd i ganolbwyntio ar gomisiynu ar gyfer teledu ac arlein.
Bydd y tîm Comisiynu newydd hefyd yn cynnwys golygyddion Radio Cymru a Radio Wales, fydd yn ymuno â Bwrdd BBC Cymru am y tro cyntaf.
“Mae’r newidiadau wedi eu cynllunio i wneud BBC Cymru yn fwy creadigol ac agored," meddai Rhodri Talfan Davies.
"Mae ein cynulleidfaoedd yn newid yn gyflym ac mae angen i ni wneud hefyd.
"Rwy’n credu y bydd y newidiadu yma’n symleiddio ein ffyrdd o weithio, ein gallugoi i wneud penderfyniadau’n gynt a rhoi rhyddid i’n comisiynwyr i fentro mwy ac archwilio ffyrdd newydd o wasanaethu’n cynulleidfaoedd.”
Fe gyhoeddodd hefyd y byddai timau digidol a marchnata BBC Cymru yn uno am y tro cyntaf, er mwyn cryfhau’r ffocws ar arloesi, technoleg a mewnwelediad i’r gynulleidfa.
Wrth amlinellu’r sialens ariannol, dywedodd Rhodri Talfan Davies fod disgwyl i ad-leoliad BBC Cymru i’w gartref newydd yn y Sgwár Ganolog yng nghanol dinas Caerdydd yn 2019 gyflwyno arbedion arwyddocaol fyddai’n cyfrannu hyd at £3m o’r targed arbedion.
Cyhoeddodd gynlluniau hefyd i greu arbedion rheoli, wrth i chwe swydd uwch reoli gau ac i dri newydd gael ei greu.
Dywedodd wrth staff ei fod yn gobeithio cadw’r arbedion ym maesydd cynnwys i oddeutu £3m dros y pum mlynedd, ac y byddai unrhyw fuddsoddiad newydd a gaiff ei sicrhau yn cael ei sianelu i raglenni Saesneg a gwasanaethau newyddion.
Dywed Rhodri Talfan Davies: “Yn y sector gyhoeddus, mae ein record ar effeithlonrwydd heb ei ail.
"Ar draws y BBC, mae ein arbedion yn y cyfnod Siarter presennol oddeutu £1.6bn.
“Yr egwyddor, bob tro, fydd i warchod ein gwasanaethau gymaint â phosibl gan leihau’r effaith ar ein cynulleidfaoedd.
"Felly, fe fyddwn, wrth gwrs yn gwthio’n effeithlonrwydd yn galetach.”
Llun: Rhodri Talfan Davies