Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Medi 2016

'Mae cwpwrdd Llywodraeth Cymru yn wag o ran polisi economaidd' - Adam Price

Mae Gweinidog Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Gyllid a’r Economi Adam Price wedi rhybuddio fod diffyg eglurder Llywodraeth Cymru ar bolisi economaidd yn niweidio’r economi.

Dywedodd Adam Price fod gan Lywodraeth Cymru record faith o gyflwyno ymdrechion strategaeth llipa sy’n methu oherwydd diffyg ffocws.

Dywedodd mai’r dryswch ynghylch safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn ag a ddylai Cymru orfod bod yn aelod o’r Farchnad Sengl oedd yr enghraifft ddiweddaraf o fethiant y llywodraeth Lafur i gyflwyno gweledigaeth economaidd glir i Gymru.

Meddai: “Mae record Llywodraeth Cymru ar bolisi economaidd yn gyfres o fentrau methiannus sydd wedi colli ffocws ac wedi methu â chyflawni.

"Mae obsesiwn y llywodraeth gyda chreu swyddi wedi arwain at wneud camgymeriadau, ac o’r herwydd, mae’r economi mewn merddwr.

“Yr hyn mae ar Gymru ei angen yw chwistrelliad enfawr o greadigrwydd, ond mae cwpwrdd Llywodraeth Cymru yn wag o ran polisi economaidd.

"Yn wir, mae mwy o syniadau yn dod o feinciau’r wrthblaid yn y Cynulliad nac o feinciau’r llywodraeth ei hun.

"Ddoe, fe lansiodd Plaid Cymru ein Rhaglen yr Wrthblaid sydd yn gosod allan ein hagenda am y misoedd i ddod.

“Mae Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru yn gosod allan ein blaenoriaethau economaidd gyda’r nod o ddwyn Cymru i lefel economaidd gydradd â’r DG o fewn cenhedlaeth.

"A buom yn gyson ein barn y dylai Cymru aros yn aelod llawn o’r Farchnad Sengl am ein bod nyn gwybod ei bod yn hanfodol sicrhau y gall cwmnïau yng Nghymru barhau i fasnachu gyda gweddill Ewrop o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae diffyg canolbwynt y llywodraeth hon yn niweidiol i ffawd economaidd Cymru. Mae peryglon Brexit yn golygu ei bod yn bwysicach fyth fod gan Lywodraeth Cymru farn eglur.”

Rhannu |