Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Medi 2016

Menter newydd i adfywio Cristnogaeth yng Nghymru

Mae prosiect newydd i adnewyddu bywyd eglwysi a'r dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru yn cael ei lansio heddiw.

Y Ffordd yw enw cynllun pedair blynedd sy'n annog trafodaeth ffres ac eang ar natur y ffydd Gristnogol.

Yn ganolog i'r fenter mae cyfres o fideos thematig gafodd eu ffilmio gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg sy'n cynnwys holi pobl ar y stryd, yn ogystal â chyfweliadau gan aelodau eglwysig, gweinidogion a diwinyddion.

Bydd y rhain ar gael fel DVDs ac ar-lein i’w defnyddio fel sail trafodaethau grŵp.

Dyma’r strategaeth gyntaf o'i bath gan enwad Cristnogol yng Nghymru.

Cafodd darlledwyr proffesiynol eu cyflogi gan yr Undeb, sydd wedi addasu rhan o'i swyddfeydd yn Abertawe yn stiwdio recordio teledu a radio.

Mae'r ffilmio’n cael ei arwain gan y cyflwynydd a’r cynhyrchydd profiadol Rhodri Darcy, a fu’n gweithio ar Songs of Praise ac yn cyflwyno Dechrau Canu Dechrau Canmol.

"Mewn oes pan fo aelodaeth eglwysig yn gostwng yn gyflym, bwriad y prosiect unigryw hwn yw helpu Cristnogion i gryfhau eu ffydd a rhoi iddynt yr hyder i fynegi’r ffydd yna yn eu cymunedau," meddai Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr, sy'n cynrychioli aelodau mewn dros 400 o gapeli yng Nghymru.

"I lawer, mae’n bosib mai hwn fydd y cyfle olaf i atal y dirywiad ac arbed eu capeli rhag cau."

Bydd yr adnoddau ar-lein ar gael i bob enwad ac ar gyfer unrhyw un sydd am ddysgu mwy am y ffydd Gristnogol a'r hyn mae Cristnogion yn ei gredu heddiw.

Lansiad Gogledd Cymru: Capel Coffa, Cyffordd Llandudno LL31 9HD   Nos Iau, 15 Medi am 7.00

Lansiad De Cymru: Capel Bethania, Y Tymbl, Llanelli SA14 6ED    Nos Lun, 26 Medi am 7.00.

Rhannu |