Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Medi 2016

Arweinyddiaeth yw’r ‘ffactor mwyaf arwyddocaol’ wrth ysgogi gwelliant ysgolion cynradd

Arweinyddiaeth effeithiol yw’r dylanwad pwysicaf o ran codi safonau, gwella addysgu a dysgu, ac ymgorffori diwylliant o hunan-wella mewn ysgolion cynradd.

Mae adroddiad Estyn, ‘Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd’ yn defnyddio tystiolaeth arolygu ac astudiaethau achos o ystod eang o ysgolion ledled Cymru i nodi nodweddion cyffredin gwelliant llwyddiannus ar gyfer ysgolion sydd ar gamau datblygu gwahanol – p’un a ydynt yn cychwyn o fan isel neu’n bwriadu cynnal safonau uchel.

Mae’n dangos hefyd sut gall ysgolion ddysgu o brofiadau ei gilydd a’u defnyddio i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. 

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd: “Mae ei heriau ei hun gan bob ysgol, ond gall pob ysgol wella. I sicrhau gwelliant effeithiol, mae arnoch angen arweinwyr sydd â gweledigaeth glir o’r hyn sydd angen ei newid.

"Mae arolygu yn cefnogi’r broses hon drwy nodi cryfderau ysgolion a’u meysydd i’w gwella, a thrwy flaenoriaethu camau nesaf posibl.” 

Mynd ar y daith wella

Mae’r astudiaethau achos yn yr adroddiad yn dangos pedwar cam taith wella ysgol - dechrau'r daith, gwneud cynnydd, adeiladu momentwm, ac yna cynnal safonau uchel.

Er enghraifft, dechreuodd Ysgol Gynradd Deighton (Blaenau Gwent) o fod angen ‘gwelliant sylweddol’ ar ôl arolygiad yn 2011.

Fe wnaeth tîm arweinyddiaeth newydd yr ysgol ganolbwyntio ar wella’r addysgu a meithrin diwylliant o ddisgwyliadau uchel. 

Hefyd, aeth yr ysgol ati i ddatblygu rôl llywodraethwyr a meithrin cysylltiadau cryfach gyda rhieni a’r gymuned leol.

Erbyn 2015, roedd deilliannau disgyblion yn gwella a dyfarnodd arolygiad llawn gan Estyn fod yr ysgol yn ‘dda’ o ran ei pherfformiad presennol a’i rhagolygon gwella yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys model ar gyfer gwelliant effeithiol ar bob un o’r camau hyn, yn seiliedig ar set o nodweddion cyffredin, fel:

  • gweledigaeth a chyfeiriad strategol clir gan arweinwyr sy’n datblygu wrth i’r ysgol wella
  • gwneud gwella safonau a lles disgyblion yn brif flaenoriaeth
  • cyflwyno cwricwlwm sy’n bodloni anghenion pob disgybl yn llawn
  • cynnal ffocws cyson ar fedrau llythrennedd a rhifedd
  • codi safonau proffesiynol proffesiynol -  gwella’r addysgu, datblygu medrau staff, a sicrhau bod staff yn atebol am ysgogi gwelliant a
  • sicrhau bod hunanarfarnu wedi’i seilio ar dystiolaeth gadarn ac yn gysylltiedig â blaenoriaethau gwella.
Rhannu |