Mwy o Newyddion
Cymru heb lais yn y trafodaethau Brexit wrth i Weinidog yr Alban deithio i Whitehall
Mae llefarydd Plaid Cymru ar Brexit yn San Steffan, Jonathan Edwards AS, heddiw wedi cyhuddo’r Prif Weinidog Carwyn Jones o ‘gondemnio Cymru i amherthnasedd’ drwy fethu a chreu rôl Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru i gynrychioli anghenion y genedl yn y trafodaethau sydd ar droed.
Daw sylwadau Mr Edwards wrth i Michael Russell, gweinidog Brexit llywodraeth yr Alban, deithio i Whitehall i gyfarfod David Davis, ysgrifennydd cabinet y DG ar gyfer gadael yr UE, heddiw.
Plaid Cymru oedd y cyntaf i alw am greu rôl weinidogol arbennig ar gyfer delio gyda goblygiadau’r bleidlais i adael yr UE ar Gymru, ac i sicrhau fod buddiannau cenedlaethol Cymru’n cael eu cynrychioli a’i hamddiffyn mewn trafodaethau allweddol.
Dywedodd Jonathan Edwards AS: “Llai na thri mis ers refferendwm yr UE ac oes mae gan Gymru lai a llai o arwyddocad yn sgil diffyg gweithredu Llywodraeth Lafur Cymru.
“Heddiw, mae gweinidog Brexit llywodraeth yr Alban yn cyfarfod David Davis, ysgrifennydd cabinet Prydain ar gyfer gadael yr UE, yn Llundain i gynnal trafodaethau allweddol ar rol gweinyddiaeth Caeredin yn llunio safbwynt negodi’r DG.
“Ar yr un pryd, mae Cymru’n sefyll ar y cyrion diolch i’r ffaith fod y Prif Weinidog Llafur wedi gwrthod argymhellion i greu rôl weinidogol i ddelio gyda’r goblygiadau o bleidleisio i adael yr UE ar Gymru.
“Plaid Cymru oedd y cyntaf i ddadlau y dylid Cymru gael Gweinidog Brexit fyddai’n barod i fynnu sedd wrth y bwrdd ac i sicrhau nad ydi ein cenedl heb lais yn y trafodaethau fydd yn pennu ein dyfodol.
“Mae’n amlwg o sylwadau a wnaed yn siambr y Senedd yr wythnos hon nad oes gan Lywodraeth Lafur Cymru gynllun clir ar gyfer delio gyda Brexit.
"Mewn deuddydd, mae’r Prif Weinidog wedi amlinellu tri safbwynt gwahanol ar aelodaeth o’r farchnad sengl.
"Ni fydd y diffyg hygrededd a chymhwysedd hyn yn rhoi hyder i bobl Cymru.
“Os yw’r diffyg gweithredu hyn yn parhau, bydd y Prif Weinidog mewn perygl o gondemnio Cymru i amherthnasedd.
"Rwy’n ei annog i ail-ystyried ei benderfyniad i beidio apwyntio Gweinidog Brexit er mwyn sicrhau fod Cymru’n cael ei chynrychioli’n llawn yn y trafodaethau hollbwysig hyn.”