Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Medi 2016

Gwaredu Llysiau’r Dial o ardal Dolgellau

O fewn yr wythnosau nesaf, bydd swyddogion o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn mynd ati i reoli’r planhigyn ymledol a dinistriol, Llysiau’r Dial, yn ardal Dolgellau.

Diolch i grant gan Gyfoeth Naturiol Cymru, bydd yr Awdurdod a’i bartneriaid sef Cymdeithasau Pysgota Prince Albert a Dolgellau a Chlwb Rotari Dolgellau ynghyd â chontractwyr lleol, yn mynd ati i geisio rheoli un o blanhigion mwyaf dinistriol y wlad.

Yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyflwynwyd Llysiau’r Dial (Japonica var japonica) i Brydain fel planhigyn addurnol  i’r ardd ac ers hynny, mae wedi lledaenu’n gyflym, yn arbennig ar hyd cyrsiau dŵr, llwybrau trafnidiaeth ac ardaloedd o dir gwastraff.

Mae’n aelod o’r un teulu â dail tafol, ond yn blanhigyn tal a grymus, â choesynnau amlwg, canghennog wedi eu gorchuddio â smotiau piws.

Rhwng Awst a Hydref bydd yn cynhyrchu clystyrau o flodau bach hufen ac am ei fod yn blanhigyn parhaol rhisomaidd (planhigyn â choesau yn tyfu o dan y ddaear), gall y coesau dyfu rhwng dwy a saith metr o dan y ddaear a hyd at ddwy i dair metr uwchben y ddaear. 

Bellach mae’n arbenigwr ar oresgyn cynefinoedd naturiol gan amddifadu bywyd gwyllt o lwybrau mudo ac amddifadu afonydd, cloddiau, rheilffyrdd ac ymylon ffyrdd o blanhigion cynhenid.

Gall hefyd niweidio adeiladau ac arwynebau caled ac unwaith iddo ymsefydlu o dan neu o gwmpas adeiladau, mae’n anodd iawn i gael gwared ag o.

Gall hefyd ddifrodi strwythurau sy’n atal llifogydd ac oherwydd ei goesau tal gall greu problemau gwelededd i gerddwyr ar lwybrau cerdded.

Dywedodd Gethin Davies, Swyddog Ecosystemau a Newid Hinsawdd yr Awdurdod: “Mae hi’n waith anodd a llafurus i gael gwared â’r planhigyn ymledol a dinistriol hwn ac yn anffodus, dydy mynd ati gyda pheiriant torri gwair ddim yn ateb.

"Gwell fyddai ei adael fel ag y mae a’i drin â chwynladdwr, neu ei godi’n gyfangwbwl o’r ddaear, gan gynnwys y gwreiddiau, ac yna’i adael i sychu cyn ei losgi.

"Yn Nolgellau, ei chwistrellu â chwynladdwr fyddwn ni’n ei wneud a gyda chymorth ein partneriaid, ynghyd â’r wybodaeth gan bobl am leoliadau’r planhigyn a gofnodwyd ar ein gwefan ag ap, mae’n bosib i ni fwrw ymlaen â’r gwaith.”

Dywedodd Swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru, David Smith: "Mae'r prosiect hwn, drwy gydlynu rhaglen systematig o waith ac arolygon, yn rhoi cyfle gwirioneddol i ddileu'r rhywogaeth ymledol hwn o’r ddalgylch.

"Bydd hefyd yn gweithio gyda chymunedau lleol, tirfeddianwyr, pysgotwyr a grwpiau eraill ac yn eu harwain, eu hysbrydoli a galluogi’r rhai sy'n adnabod yr afonydd hyn orau, i fynd i'r afael â bygythiad hwn i'n ecoleg afonol a safleoedd bywyd gwyllt arbennig sydd wedi eu gwarchod.

"Bydd mewnbwn gan y gymuned leol yn helpu i greu strategaethau cynaliadwy yn yr hirdymor fydd yn diogelu’n hafonydd rhag y bygythiadau dinistriol hyn."

Mae partneriaid y Parc Cenedlaethol yn y prosiect, sef cymdeithasau pysgota lleol, wedi bod yn weithgar iawn yn gwaredu’r planhigyn ymledol hwn eisoes.

Dywedodd John Eardley o Gymdeithas Bysgota Prince Albert: "Rydym wedi bod yn trin Llysiau'r Dial ar lan y Fawddach a’r Wnion yn ardal Llanelltyd ers tair blynedd.

"Er inni fod yn llwyddiannus iawn o ran lleihau rhai clystyrau mawr, mae'n anodd iawn lladd y system wreiddiau yn gyfan gwbl ac mae triniaeth barhaus yn hanfodol.

"Mae hefyd yn hanfodol i fapio lleoliadau yn gywir gan fod y planhigion yn cael eu cuddio yn hawdd gan lystyfiant eraill wrth iddynt leihau o ran maint yn dilyn triniaeth.

"Mae hefyd yn bwysig bod yn wyliadwrus rhag ofn i unrhyw ddeunydd newydd a dorrwyd o ardaloedd i fyny'r afon gael ei gludo i lawr yr afon mewn llifogydd.”

Ychwanegodd Gavin Jones, Ysgrifennydd Cymdeithas Pysgota Dolgellau: "Mae Cymdeithas Pysgota Dolgellau yn falch i allu cyfrannu tuag at y cais am grant gan Gyfoeth Naturiol Cymru i fynd i'r afael â'r planhigion ymledol a dinistriol hyn o lannau ein afonydd.

"Mae'r grant hwn wedi galluogi gwirfoddolwyr CPD i wella’u sgiliau a darparu offer iddyn nhw i’w helpu i ddileu planhigyn sydd wedi difrodi a rhwystro mynediad at ein dyfroedd.

"Mae CPD yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'n partneriaid ar gynllun fydd yn gwella’n hamgylchedd, ac a fydd yn ei dro yn gwella pysgota a’r diwydiant ymwelwyr."

Os gŵyr pobl yn ardal Dolgellau am fodolaeth Llysiau’r Dial mewn ardaloedd nad sydd wedi eu cofnodi, yna mae modd cofnodi’r lleoliadau hynny ar http://eryri.atlas.cofnod.org.uk/

 Am fwy o fanylion am Lysiau’r Dial, ewch i http://www.eryri-npa.gov.uk/cym/looking-after/invasive-species/japanese-knotweed

Rhannu |