Mwy o Newyddion
Rhaid i'r Gymraeg fod yn 'ddigidol yn ddiofyn', medd Plaid Cymru
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts AS, wedi galw ar y llywodraeth i sicrhau fod y Gymraeg yn ‘ddigidol yn ddiofyn’ wrth i’r Llywodraeth yn San Steffan symud at ddigideiddio gwasanaethau cyhoeddus.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wrthi’n ymdrechu i ddigideiddio eu gwasanaethau ond fe rybuddiodd yr Aelod Seneddol y gallai hyn fod yn fygythiad sylweddol i ddyfodol yr iaith os nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrîn yn gyfartal.
Rhybuddiodd Ms Saville Roberts fod y newid i gyfathrebu digidol yn debygol o arwain at 6,000 o ieithoedd ledled y byd yn diflannu.
Dyfynodd yr ieithydd, András Kornai, sydd wedi rhagdybio y bydd y ‘gwahaniad digidol’ yn lleihau’r nifer o ieithoedd sydd yn cael eu defnyddio heddiw i 5%.
Wrth sylwebu, mi ddwedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts: “Mae hi’n hanfodol bwysig ein bod ni’n sicrhau fod hawliau statudol siaradwyr Cymraeg i dderbyn gwasanaeth cydradd yn cael eu parchu a dylai hyn gael ei ddatgan yn groyw fel mater o egwyddor o fewn rhaglen ddigideiddio’r llywodraeth.
“Dylai strategaeth ‘digital by default’ y Llywodraeth hefyd olygu ‘digidol yn ddiofyn’ – nid rhywbeth i’w ofyn amdano, ond rhywbeth sydd yn amlwg ar gael ac yn groesawgar i’w ddefnyddio.
“Mae arbenigwyr yn amcangyfrif fod rhyw 2,500 o’r 7,000 o ieithoedd â siaradwyr ar hyd y byd ar hyn o bryd mewn perygl ac mae’n rhagdybio y bydd y symudiad tuag at fywyd digidol yn torri’r nifer o ieithoedd â siaradwyr lawr at 5% o’r nifer presennol.
"Mae hyn yn golygu dros 6,000 o ieithoedd yn diflannu fel canlyniad.
“Mae defnydd ysgrifenedig o’r iaith Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol yn cynyddu ond mae hi’n hanfodol bwysig fod y Llywodraeth yn sicrhau fod cyfathrebu statws uchel drwy gyfrwng y Gymraeg mor hawdd â phosib wrth i’w gwasanaethau nhw symud ar-lein.”