Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Medi 2016

Cyfarwyddwr cynnwys S4C yn talu teyrnged i awdur â 'greddf naturiol i adrodd stori dda'

Mae Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys wedi talu teyrnged i'r awdur toreithiog, amryfal, Gareth F Williams, gan ei ddisgrifio fel "'sgwennwr â greddf naturiol i greu stori gofiadwy".

Bu farw'r dramodydd a nofelydd plant ac oedolion yn 61 oed ar ôl brwydr ddewr yn erbyn canser.

Cafodd Gareth ei fagu ym Mhorthmadog, Gwynedd ac roedd wedi bwrw gwreiddiau ers blynyddoedd yn Y Beddau, ger Pontypridd. Roedd yn grëwr cyfresi niferus ac yn storïwr a sgriptiwr toreithiog ar ystod o ddramâu dros y 25 mlynedd diwethaf.

Roedd yn un o sgriptiwyr a storïwyr y gyfres wythnos boblogaidd Pengelli, yn awdur y gyfres Pen Tennyn ac yn gweithio ar y sebon Rownd a Rownd, sydd newydd gyrraedd carreg filltir yn 21 oed.

Ymysg ei gynnyrch arall roedd y gyfres ddrama iasol i bobl fanc Jara, y ffilm afaelgar Sion a Siân ac yn fwyaf diweddar, y gyfres ddrama deulu, Lan a Lawr.

Meddai Dafydd Rhys: "Roedd Gareth F Williams yn awdur ac yn sgriptiwr ar amrywiaeth ryfeddol o ddramâu, ond yn ganolog i'r cyfan roedd y reddf i adnabod a sgwennu stori afaelgar.

"Roedd yn deall pobl ac un a chanddo glust fain am ddeialog afaelgar, fachog a chyfoethog.

"Yn ddyn o brofiad eang, roedd yn fodlon delio â phynciau heriol yn ei waith ond gan gofio bob amser mai'r peth pwysicaf un oedd diddanu drwy greu cymeriadau a sefyllfaoedd cofiadwy.

"Mae ei farwolaeth yn golled fawr i'r byd teledu, drama a llenyddiaeth."

Rhannu |