Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Medi 2016

Rali yng Nghaernarfon flwyddyn ers marwolaeth Alan Kurdi, y bachgen bach ar y traeth

Bydd Aelod Seneddol Arfon Hywel Williams yn ymuno â pobl lleol a grŵp helpu ffoaduriaid Pobl i Bobl ar y Maes yng nghanol Caernarfon ddydd Sadwrn, 17 Medi, flwyddyn ers i’r dref uno i ddangos cefnogaeth i’r argyfwng ffoaduriaid yn Ewrop. 

Mae’r digwyddiad yng Nghaernarfon yn cyd-fynd â Chynhadledd arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Ddydd Llun Medi 19eg i drafod argyfwng y ffoaduriaid. Mae 3,000 o bobl wedi boddi yn ceisio croesi’r môr i Ewrop rhwng Ionawr ac Awst 2016

Ymhlith y rhai sydd yn cymryd rhan bydd Lisa Jen Brown (9Bach), Hywel Williams AS a chriw o berfformwyr ifanc o brosiect ‘Ar y Stryd’ gan Gwmni Theatr Fran Wen.

Dywedodd Hywel Williams AS: “Daeth cannoedd o bobl o bob oedran, ffydd a diwylliannau at ei gilydd yng Nghaernarfon y llynedd i ddangos undod gyda'r ffoaduriaid.

"Fel AS dros Arfon, rwy'n falch o gynrychioli ardal sy'n dathlu amrywiaeth ac bob amser yn barod i estyn allan at y rhai sydd mewn angen.

“Mae'r gwaith a wnaed gan elusen lleol Pobl i Bobl o Fangor wedi bod yn allweddol o ran casglu cyflenwadau i helpu'r rhai sydd wedi eu dadleoli gan ryfeloedd ac sy’n ffoi rhag erledigaeth.

“Rwy'n gobeithio gweld pobl leol yn dod at ei gilydd unwaith eto mewn gweithred o undod ar y Maes.

"Gadewch i ni ddelio â'r argyfwng ffoaduriaid gyda chymorth, dynoliaeth a thosturi a chydnabod cyflwr y rhai sy'n ceisio cael diogelwch neu’n sownd mewn amodau truenus mewn gwersylloedd ffoaduriaid ar draws Ewrop.”

Dywedodd trefnydd y digwyddiad Catrin Wager: “Flwyddyn yn ôl, daeth cymunedau Gogledd Cymru at ei gilydd mewn ymateb hynod hael i argyfwng y ffoaduriaid ar ôl i lun Alan Kurdi gael ei gyhoeddi yn y wasg.

"Mae cymunedau’r gogledd yn dal i fod yn arbennig o hael, yn rhoi pebyll, sachau cysgu a dillad i fudiadau fel Pobl i Bobl i’w gyrru dramor at bobl sydd eu hangen.

“Ond dal i ddisgwyl ydan ni am ymateb cadarn, teyrngarol gan y gwleidyddion; a nod y digwyddiad yma, ac eraill sydd yn digwydd ar yr 17eg yw annog ymrwymiad gwleidyddol o’r fath.”

Ychwanegodd Gwenan Mair Jones o Gwmni’r Fran Wen: “Mae digwyddiadau fel hyn yn hynod o bwysig yn enwedig pan fod pobl ifanc eisiau lle i rannu eu teimladau.

"Dylsai bobl ifanc gael yr hawl i gwestiynu yr hyn sy’n mynd ymlaen ac nid derbyn yr hyn sy’n digwydd yn ein byd. Dewch i ddal dwylo, cyfathrebu a chanu Ddydd Sadwrn.” 

Rhannu |