Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Medi 2016

Llyfrgell Genedlaethol yn cyflwyno dwy arddangosfa i goffau trychineb Aberfan

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn cyflwyno dwy arddangosfa i goffau un o drychinebau glofaol gwaethaf Cymru yn yr 20fed ganrif.

Y Dyddiau Du yn y Neuadd Ganolog Uchaf

Roedd pob gorsaf newyddion yn sôn amdano ar y bore hwnnw ym mis Hydref. Roedd mynydd wedi llithro i lawr ar ben ysgol gynradd yn Aberfan. Roedd ugeiniau o blant wedi’u lladd neu ar goll, ynghyd â llawer o’u hathrawon. Y dyddiad oedd dydd Gwener, yr 21ain Hydref, 1966.

Wedi ei symud gan yr adroddiadau newyddion o Aberfan, teithiodd y ffotograffydd I C Rapoport o Efrog Newydd i'r pentref yn Ne Cymru i ddogfennu y trallod a'r galar a pharhad bywyd wedi cymaint o golled.

Ewch i weld y delweddau teimladwy hyn dros eich hunain, a phrofi canlyniad un o'r diwrnodau duaf yn hanes Cymru.

Hydref Du yn Anecs Gregynog

Cyfle i weld eitemau o gasgliadau'r Llyfrgell i goffau'r drychineb. O lenyddiaeth a chelf i gerddoriaeth a ffilm. Profiad cyflawn yn dangos effaith y drychineb a'r ymateb iddi yng Nghymru.

Ceir hefyd yn yr arddangosfa, 'gosodwaith glo', sy'n cynnwys un darn o lo am bob un o'r 144 bywyd a gollwyd.Gallwch weld fideo o'r tîm arddangosfeydd yn ei osod, isod.

Llun: 'Clearing the debris' © Philip Townsend

Rhannu |