Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Medi 2016

Haf o lwyddiant i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn dathlu dau beth heddiw, niferoedd arbennig o ymwelwyr yn ystod yr haf a ffigyrau ariannol cryfion.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ardd, Huw Francis, bod y newyddion yn rhywbeth i ddathlu: “Yn dilyn mis Awst ardderchog gyda’r nifer o ymwelwyr yn 23% o flaen targed, rydym nawr 5% o flaen targed am y flwyddyn hyd yn hyn ar dderbyniadau. 

Mae hyn, ynghlwm a gweddillion gweithredol yn y ddwy flwyddyn ddiwethaf, yn newyddion da iawn.”

Meddai Mr Francis bod yr agoriad o Blas Pilipala, maes chwarae newydd a gwelliannau eraill ynglŷn â beth sydd gan yr Ardd i gynnig wedi chwarae rhan bwysig yn llwyddiannau diweddar yr Ardd. 

Fe wnaeth hefyd cymeradwyo rôl staff a gwirfoddolwyr yr Ardd am eu rhan nhw: “Mae’r brwdfrydedd a’r ymroddiad sydd yma yn ardderchog ac yn glod iddynt ein bod yn perfformio’n mor dda.”

Dywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Rob Joliffe: “Mae’n teimlo petai’r Ardd wir wedi troi cornel yn nhermau ei chyllid a ffigyrau ymwelwyr arbennig yr haf.  Dylai Huw a’i dîm fod yn falch iawn o’u cyflawniadau.”

Ychwanegodd Mr Francis: “Cafodd ymdrechion marchnata'r haf eu hanelu at gynyddu ymweliadau gan deuluoedd felly mae’n rhaid dweud, gan unrhyw fesur, bod yr ymgyrch yma wedi bod yn llwyddiant mawr.”

Ond fe ddywedodd mai mwy iddo na Phlas Pilipala yn unig: “Agorodd Plas Pilipala ar Orffennaf y 1af ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn, ond mae’n rhan o lun sy’n gwella. 

"Mae’n ddyddiadur prysur o ddigwyddiadau sy’n ffocysu ar deuluoedd, ein maes chwarae newydd - gyda’i llinell sip a thrampolîn - hefyd yn atyniad mawr ac yn rhesymau da i ymweld hefyd.”

Ym mis Gorffennaf eleni, gaeth yr Ardd 15,000 o ymwelwyr sy’n cynnwys cynyddiad o 36% yn y nifer o ymweliadau gan deuluoedd i gymharu â llynedd.

Roedd ffigyrau mis Awst yn well byth. 

Gaeth ffigwr llynedd o 16, 781 ei guro gan gynyddiad anferth o 43% gyda ffigwr terfynol am fis Awst 2016 o 23, 966 o ymwelwyr. 

Oddi tan y ffigyrau yma yw cynyddiad o 68% yn y nifer o ymweliadau gan deuluoedd i’r Ardd a chynyddiad o 41% yn y gwerthiant o aelodaeth, sy’n cynnig blwyddyn o fynediad am ddim i’r Ardd am gyn lleied â £36.

Mae llwyddiant yr Ardd yn rhan o ‘newyddion da’ i Sir Gaerfyrddin ac ardal dde orllewin Cymru, sydd wedi gweld cynyddiad dwbl ffigwr o dwristiaid, yn ôl amcangyfrifon cynnar. 

Caiff cyfrifon statudol yr atyniad eu gwneud yn gyhoeddus ym mis Tachwedd ond mae’r Ardd yn adrodd gweddill gweithredol am 2015/2015, sy’n dilyn llwyddiant o’r sefyllfa yn 2014/2015. 

Rhannu |