Mwy o Newyddion
Plaid am wrthod unrhyw gytundeb Brexit sy’n anfanteisio Cymru
Mae Steffan Lewis AC, Ysgrifennydd Cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Allanol, wedi ategu addewid ei blaid i wrthwynebu unrhyw gytundeb Brexit fydd yn anfateisio Cymru.
Daw ei sylwadau wrth i ffigyrau newydd gan yr Institute for Fiscal Studies ddangos y gall Cymru fod ar ei cholled o £500m y flwyddyn wrth adael yr Undeb Ewropeaidd yn sgil toriad o 3.2% i’r gyllideb Gymreig.
Dywedodd Steffan Lewis AC fod pobl yng Nghymru wedi eu camarwain gan yr ymgyrch Gadael a wnaeth sawl addewid gwag ar fewnfudo a mwy o gyllid i’r NHS, gan ychwanegu y byddai Plaid Cymru’n gwneud popeth o fewn ei gallu i warchod Cymru rhag canlyniadau’r addewidion gwag hyn.
Dywedodd Steffan Lewis AC Plaid Cymru: “Mae’r ffigyrau newydd hyn dangos sut y cafodd pobl yng Nghymru eu camarwain yn llwyr gan yr ymgyrch Gadael yn ystod refferendwm yr UE.
"O dorri mewnfudo i gynyddu cyllid i’r NHS, mae addewidion cefnogwyr Brexit eisoes wedi eu dadwneud.
“Nid pleidlais i ganoli grym yn San Steffan nac i dorri cyllideb Cymru oedd y refferendwm – pe bai dyna’r achos yna mae posibilrwydd cryf y byddai’r canlyniad wedi bod yn wahanol.
“Byddai toriad o £500m y flwyddyn, fel y mae’r IFS yn gyfrifol, yn cynrychioli colled sylweddol i’r economi Gymreig, ar ben cyllideb sydd eisoes dan bwysau.
“Mae Plaid Cymru eisoes wedi dadlau o blaid rhoi mwy o bwerau economaidd i Gymru er mwyn creu swyddi a thwf a’n gwarchod rhag effaith Brexit.
“Ein blaenoriaeth ni bob amser yw gwarchod buddiannau cenedlaethol Cymru. Dyna pam nad ydyn yn barod i gefnogi unrhyw gytundeb Brexit fydd yn anfanteisio ein gwlad.
“Mae ffigyrau heddiw’n debygol o greu hyd yn oed mwy o ansicrwydd – ffactor sy’n peri bygythiad enfawr i’r economi.
“Rhaid i’r Prif Weinidog a’i Gweinyddiaeth Brexit beidio oedi ymhellach cyn amlinellu sut y bydd Cymru’n cael ei digolledu, neu wynebu cael ei threchu yn ei hymdrechion i sicrhau cytundeb UE-DG.”