Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Medi 2016

Cyngor Gwynedd i gau pedair llyfrgell

Mae Cyngor Gwynedd wedi cytuno i gau pedair llyfrgel mewn ymgais i sicrhau dyfodol cynaliadwy hirdymor Gwasanaeth Llyfrgell y sir.

Y pedair llyfrgell fydd yn cau ym mis Hydref yw Llanberis, Deiniolen, Harlech a Phenrhyndeudraeth.

Mae’r strategaeth ‘Mwy na Llyfrau’ yn gosod nod o gynnal gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon i bobl Gwynedd ac o fewn cyrraedd pawb sy’n dymuno ei ddefnyddio gan geisio hefyd i gwrdd â’r gofynion cenedlaethol o fewn cyfnod pan mae’r arian sydd ar gael i gynnal gwasanaethau yn gostwng.

Er mwyn gallu gwneud hyn a pharhau i allu cynnig hyn i’r dyfodol, mae angen cyflwyno  newidiadau i’r gwasanaeth. Mae’r strategaeth yn symud i ddarpariaeth sy’n seiliedig ar:

  • Llyfrgelloedd  Dalgylch – Cynnal naw llyfrgell dalgylch yn: Abermaw, Bangor, Blaenau Ffestiniog, Caernarfon, Dolgellau, Porthmadog, Pwllheli, Tywyn ac Y Bala. Bydd y Cyngor yn edrych ar oriau agor y llyfrgelloedd hyn ac o bosib yn eu newid i weddu’r angen.
  • Llyfrgell deithiol – Bydd tri math o wasanaeth llyfrgell deithiol yn parhau i gael eu cynnal, sef: Llyfrgelloedd Teithiol  i Gymunedau Gwledig , Gwasanaeth i’r Cartref (ar gyfer pobl na all fynd i adeiladau’r llyfrgell oherwydd anabledd neu gyflwr meddygol) a cherbyd teithiol i Blant a Phobl Ifanc (Lori Ni). Bydd y Cyngor yn edrych ar ble mae’r cerbydau hyn yn stopio, ac yn addasu yn ôl yr angen.
  • Llyfrgelloedd Cymunedol – Bydd y Cyngor yn gweithio efo pedair o gymunedau lleol i sefydlu Llyfrgelloedd Cymunedol ym Methesda, Penygroes, Criccieth a Nefyn. Bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu'r un gwasanaeth llyfrgell yn y cymunedau hyn ond drwy rannu adeilad gyda phartner yn y gymuned. Eto, bydd y Cyngor yn edrych ar oriau agor y llyfrgelloedd hyn ac o bosib yn eu newid i weddu’r angen i’r defnyddiwr.
  • Dolen Gymunedol – Darpariaeth presennol o gynnal gwasanaeth llyfrgell o adeilad yn dod i ben yng nghymunedau Llanberis, Deiniolen, Penrhyndeudraeth a Harlech, gyda Dolen Llyfrgell yn cael ei sefydlu er mwyn cynnig cyfle i archebu a chasglu llyfrau sydd wedi eu dewis ar-lein. 

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb am Lyfrgelloedd: “Rydym yn gwerthfawrogi fod unrhyw newid i wasanaeth sydd mor agos at galonnau llawer, ac sydd wedi aros heb newid ers blynyddoedd lawer, yn her.

"Ond wrth wrando yn ofalus ar yr hyn oedd gan bobl leol i’w ddweud yn ystod yr ymgynghoriadau cyhoeddus, rydw i’n grediniol mai’r hyn sy’n cael ei gynnig rwan ydi’r model gorau posib er mwyn darparu gwasanaeth llyfrgell fodern a chynaliadwy i Wynedd ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

“Mae cyfuniad o newid yn anghenion a disgwyliadau trigolion, twf ym mhoblogrwydd deunyddiau digidol ac ar-lein, a disgwyliadau Llywodraeth Cymru fod cynghorau yn moderneiddio eu darpariaeth mewn cyfnod lle mae’r gyllideb sydd ar gael i gynnal gwasanaethau yn crebachu, yn golygu fod cyflwyno newidiadau yn anorfod.

“Wrth gyflwyno model lle bydd newid yn oriau llyfrgelloedd dalgylch, newid yn y ffordd mae adeiladau llyfrgelloedd cymunedol yn cael eu rheoli, cyflwyno rhai addasiadau i’r gwasanaethau teithiol a sefydlu dolenni cymunedol, rydym yn gobeithio y bydd llyfrgell neu fynediad at wasanaeth llyfrgell yn parhau i fod ar gael i drigolion Gwynedd-gyfan.

“Rydym wedi bod yn trafod y strategaeth yma gyda phartneriaid gan gynnwys cynghorau cymuned a thref, a byddwn rŵan yn parhau i drafod gyda nhw dros y misoedd nesaf wrth i ni symud i gyflwyno’r drefn newydd.

"Hoffwn ddiolch iddynt am eu parodrwydd i drafod a gweithio gyda ni i adnabod datrysiadau newydd er mwyn cynnig gwasanaeth llyfrgell cynaliadwy i’r dyfodol i holl drigolion y sir.”

Rhannu |